Mae dysgwyr yn y Cymoedd yn cael eu hannog i roi’r gorau i ddefnyddio plastig mewn ymgais i wella’r amgylchedd a helpu arwain y ffordd wrth leihau llygredd plastig.
Mae Coleg y Cymoedd yn cynnal Dyddiau Gwener Di-blastig ar ddau gampws (Ystrad Mynach a Nantgarw), yn dilyn mwy o ymwybyddiaeth am effeithiau niweidiol eitemau sy’n cael eu taflu ar gefnforoedd a bywyd gwyllt, yn ogystal ag iechyd a bywoliaeth ddynol.
Mae dysgwyr yn y campysau yn cael eu hannog i newid o ddefnyddio poteli dŵr tafladwy i ddewisiadau amgen y gellir eu hailddefnyddio, sy’n cael eu cynnig am ddim yn y ddau gampws bob dydd Gwener.
Mae cannoedd o boteli y mae modd eu hail-lenwi eisoes wedi’u rhannu ymhlith tiwtoriaid a dysgwyr ar draws y Coleg, tra bod stondin dynodedig hefyd wedi’i osod i godi ymwybyddiaeth am beryglon plastigau untro ac ysbrydoli eraill i wneud newidiadau eu hunain, yn y Coleg ac yn eu bywydau personol.
Mae’r fenter yn rhan o ymdrech ar draws y ddau gampws leoliad i atal defnyddio pastig, gyda chynlluniau ar gyfer mesurau pellach sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd eisoes ar y gorwel. Mae’r ddau gampws yn gobeithio disodli gwellt plastig gyda rhai papur ailgylchadwy yn eu ffreutur a’u caffis, yn ogystal â rhwystro’r defnydd o gwpanau coffi bach wrth gyflwyno mwgiau y gellir eu hailddefnyddio.
Dywedodd Alison Roberts, Cyfarwyddwr Campws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd: Mae gwastraff plastig yn niweidiol iawn i’r amgylchedd ac mae’n dinistrio bywydau unigolion sy’n byw mewn gwledydd sy’n datblygu. Y broblem yw, er bod pobl yn gweld delweddau o wastraff plastig ar y teledu, mae datgysylltiad rhwng hyn a’u gweithredoedd eu hunain. Roeddem am wneud ein rhan ni i helpu fel Coleg a theimlwyd fod darparu poteli y mae modd eu hailddefnyddio’n fan cychwyn da ar gyfer ein cynlluniau uchelgeisiol.
“Roedd yn bwysig inni ein bod yn ymgysylltu â dysgwyr a staff er mwyn eu newid a’u helpu i ddeall effaith eu dewisiadau. Wrth siarad â nhw am wastraff plastig a’i effeithiau a dangos hyn trwy ddelweddau o’r byd go iawn, megis y rhai o bysgotwyr yn Indonesia yn ymdrechu i weithio mewn môr yn llawn o blastig, mae’n sicr wedi helpu atgyfnerthu difrifoldeb y sefyllfa.
Dim ond y mesur eco-gyfeillgar diweddaraf yw’r cynllun hwn fel rhan o ymrwymiad y Coleg i’r agenda werdd. Ymhlith mentrau eraill mae gosod gwenynfeydd a gorsafoedd gwyrdd ar y campws, rhaglenni lleihau gwastraff bwyd ar draws ei wasanaethau arlwyo a lletygarwch, yn ogystal ag ymrwymiad hirdymor i ddefnyddio arferion adeiladu cynaliadwy ym mhob un o’i safleoedd. Dyfarnwyd y ‘Lefel Platinwm’ yng ngwobrau Cynllun Teithio Cymru i’r Coleg am ei waith yn annog staff a dysgwyr i ddefnyddio trafnidiaeth amgen megis beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a rhannu ceir.
Ychwanegodd Alison: “Mae’r ymateb a gawsom wedi bod yn hynod o gadarnhaol ac mae wedi bod yn galonogol iawn i weld cymaint o bobl ar y campws yn dod â’u poteli y gellir eu hailddefnyddio bob dydd. Mae’r sgyrsiau rydym yn eu cael gyda dysgwyr wedi dangos bod pobl yn angerddol iawn ynglÅ·n â gwneud gwahaniaeth, waeth pa mor fach, ac rydym yn edrych ymlaen at weithredu newidiadau eraill dros y blynyddoedd i ddod. “Bydd y cynllun potel y gellir ei hailddefnyddio yn Nantgarw ac Ystrad Mynach yn parhau tan ddiwedd tymor yr haf a bydd yn dychwelyd i’r holl gampysau eto ym mis Medi a bydd yn galluogi dysgwyr a staff i wneud cyfraniad bach tuag at botel y gellir eu hailddefnyddio. Ar y dechrau, treialwyd ar draws dau gampws, ac mae’r Coleg yn gobeithio ehangu’r cynllun i’w gampysau eraill yn Aberdâr a’r Rhondda.
“