Mae arbenigwyr addysg o goleg yng nghymoedd de Cymru wedi teithio ar draws y byd i helpu gwella ansawdd addysg yn Fietnam a chynyddu sgiliau a chyflogadwyedd dysgwyr yn y wlad.
Mae Coleg y Cymoedd wedi cydweithio â phum coleg galwedigaethol yn Fietnam, i rannu arbenigedd ar arferion addysg gorau er mwyn hybu safonau addysgu a helpu datrys rhai o’r heriau allweddol y mae addysgwyr yn eu hwynebu yn y wlad yn ddyddiol.
Ffurfiwyd y partneriaethau trwy gynllun ‘Foundation Project Vietnam’ y Cyngor Prydeinig, prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor Prydeinig, Coleg y Cymoedd ac Adran Gyffredinol Hyfforddiant Galwedigaethol Fietnam a gynlluniwyd i gyfoethogi profiadau dysgu yn Fietnam a Chymru.
Mae’r rhaglen ddwy flynedd wedi gweld pedwar cynrychiolydd o Goleg y Cymoedd yn teithio i golegau yn Ninas Hue, Dinas HoChiMinh a phrifddinas y wlad – Hanoi. Roedd cyfarfod â’u cymheiriaid o Fietnam, gan gynnwys prifathrawon a darlithwyr, yn cynnig cyfleoedd i arbenigwyr o Gymru ddysgu am yr arferion a’r gweithdrefnau presennol yn y colegau, ac ennill adborth gan fyfyrwyr.
Galluogodd y wybodaeth hon i dîm Coleg y Cymoedd adnabod meysydd i’w gwella ym mhob un o’r colegau partner a chreu cynlluniau i fynd i’r afael â materion allweddol.
Trwy gydol y prosiect, bu’r tîm yn cydweithio’n agos â chynrychiolwyr o Fietnam, gan ddarparu hyfforddiant wyneb yn wyneb i ddatblygu eu sgiliau, yn ogystal â rhannu awgrymiadau, offer ac adnoddau i’w cefnogi wrth weithredu newidiadau i wella ansawdd yr addysg a ddarperir yn eu colegau.
Yn ogystal, golygodd bod deg cynrychiolydd o bob un o’r colegau yn Fietnam yn ymweld â’r DU am wythnos o hyfforddiant yng nghampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, er mwyn cysgodi swyddi ac arsylwi gwersi, yn ogystal â dysgu am ddulliau a strategaethau addysgu ac asesu newydd.
Roedd y cyfnewidfeydd yn caniatáu i’r cynrychiolwyr weld yn uniongyrchol sut mae Coleg y Cymoedd yn casglu adborth dysgwyr er mwyn gwella cyfleusterau a darpariaethau addysgu a dysgu’r coleg yn barhaus.
Ym mis Tachwedd 2017, teithiodd aelodau o dîm Coleg y Cymoedd yn ôl i Fietnam i weld sut mae colegau tramor wedi elwa o’r prosiect.
Meddai Matthew Tucker, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes, yng Ngholeg y Cymoedd: Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi gweld gwelliannau gwych i adnoddau ac ansawdd yr addysgu o fewn yr holl golegau yr ydym wedi cysylltu â hwy. Bu’n wych trosglwyddo ein harferion addysgu a’n prosesau ansawdd, ac mae gweld y gwahaniaeth y mae’r rhain wedi’i wneud wedi bod yn hynod werth chweil.
Gwelodd y cynllun Coleg y Cymoedd yn paru â phum coleg yn Fietnam: Coleg Galwedigaethol Talaith Ba Ria Tau, a Choleg Galwedigaethol Canolog Rhif 1 a Rhif 3 ar gyfer Trafnidiaeth, yn ogystal â Choleg Galwedigaethol Diwydiannol Hanoi, Coleg Galwedigaethol Fietnam-Corea, a Choleg Galwedigaethol Hanoi ar gyfer Electro Mecaneg.
Parhaodd Mr Tucker: “Y nod allweddol y tu ôl i’r prosiect hwn oedd cefnogi’r colegau i wrando ar eu dysgwyr a gwella eu darpariaethau yn seiliedig ar eu hadborth, fel y gwnawn yma yng Ngholeg y Cymoedd. Ar ôl ymweld â’r colegau, gallwn ddweud yn sicr fod y cynllun wedi bod yn effeithiol wrth wneud hynny, gyda phob un o’r sefydliadau wedi gweithredu arferion newydd a strategaethau hyfforddi y maent wedi’u dysgu gennym ni. “
“Bu’n bleser bod yn rhan o wneud gwahaniaeth i’r lefel addysg a ddarperir ar ochr arall y byd.”
Diolch i lwyddiant y rhaglen, mae’r coleg wedi ennyn rhagor o ddiddordeb gan addysgwyr yn yr ardal, gyda Choleg y Cymoedd yn ennill partner newydd, Coleg Twristiaeth Hue a leolir yn Ninas Hue, yn ogystal â pharhau i weithio gyda’r tri choleg yn Hanoi.
“