Coleg yng Nghymru yn derbyn gwobr fawreddog gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae ymrwymiad coleg yn ne Cymru i gefnogi milwyr cyn-filwyr y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd wedi cael ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.

Mae Coleg y Cymoedd wedi derbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) i ddathlu ei ymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog. Dyma’r coleg AB cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr.

Mae Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) yn gwobrwyo ac yn cydnabod cyflogwyr y DU am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad tuag at amddiffyn. Mae’r wobr wedi’i neilltuo ar gyfer sefydliadau sy’n addo, dangos neu hyrwyddo cefnogaeth i amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog ac sy’n alinio eu gwerthoedd â Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Daw’r wobr yn sgil nifer o bolisïau a weithredwyd yn y coleg i annog cyflogi cyn-filwyr, yn ogystal â chefnogi dysgwyr a staff sy’n ceisio bod yn filwyr wrth gefn.

Ar hyn o bryd mae Coleg y Cymoedd yn cyflogi 15 cyn-aelod o’r Lluoedd Arfog ar draws ystod o adrannau, gan gynnwys Peirianneg ac Awyrofod, gyda’r coleg yn gweithio’n weithredol gyda’r Fyddin i ymgysylltu â chyn-filwyr a chynyddu’r nifer hon yn y dyfodol.

Roedd y wobr yn cydnabod ymrwymiad i uwchsgilio unigolion sy’n gadael y Lluoedd Arfog a’r cyllid sydd ar gael yn y coleg i gefnogi cyn-filwyr trwy hyfforddiant ac addysg; er mwyn galluogi trosi unrhyw brofiad neu gymwysterau a enillwyd yn y Fyddin yn gymhwyster cydnabyddedig.

Mae’r addysgwr hefyd yn rhan o Gynllun Llwybrau’r Lluoedd Arfog, sydd wedi’i gynllunio i roi cyfleoedd i deulu’r Lluoedd Arfog – milwyr parhaol, milwyr wrth gefn, ieuenctid a chyn-filwyr – wella eu sgiliau a hefyd rhoi’r cyfle i rai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y Lluoedd Arfog ddysgu mwy am sut i ddechrau arni.
Meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd, Rydym yn falch iawn o gael y gydnabyddiaeth hon gan fod cefnogi cymunedau’r Lluoedd Arfog yn rhywbeth sy’n bwysig iawn inni. Mae’r rheiny sydd wedi ymuno â ni yn dilyn eu gwasanaeth dros eu gwlad yn dod â gwerth mawr i’r coleg, gan ddarparu cyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad na ellir ei orbwysleisio.

“Cenhadaeth Coleg y Cymoedd yw sicrhau bod gan holl aelodau ein cymuned fynediad at y darpariaethau addysg sy’n arwain at wir gyfleoedd. Felly, rydym wedi ymrwymo i gefnogi gwerthoedd craidd y gwasanaeth milwrol a helpu’r rhai sy’n cychwyn yn y lluoedd arfog neu sy’n eu gadael i gyflawni eu potensial gorau. “

Yn ogystal â chynorthwyo cyn-filwyr, mae gan y coleg bolisi pwrpasol ar waith i annog a chefnogi milwyr wrth gefn, gan gynnig amser a chymorth i’r staff a’r dysgwyr yn eu rôl yn ogystal â hyd at 10 diwrnod ar gyfer unrhyw absenoldeb er mwyn cyflawni dyletswyddau milwyr wrth gefn.

Yn gynharach y mis hwn, ymwelodd aelodau o’r Lluoedd Arfog â phob un o bedwar campws y coleg yn Nantgarw, Ystrad Mynach, Aberdâr a’r Rhondda i siarad â dysgwyr ym mhob adran am y cyfleoedd gyrfa yn y Lluoedd Arfog, gan gynnwys gwaith wrth gefn a swyddi llawn amser. Cafodd y sgyrsiau eu teilwra i wahanol bynciau gyda’r fyddin, gan baru ei hadrannau amrywiol gyda’r cyrsiau perthnasol, megis dwyn aelodau o’i thîm arlwyo i lawr i siarad â dysgwyr arlwyo.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, bydd y coleg yn trefnu bod dysgwyr sydd â diddordeb mewn bod yn filwyr wrth gefn yn ymweld â barics a chymryd rhan mewn profiad gwaith gyda’r fyddin i gael blas ar yr hyn y byddai’r yrfa honno’n ei golygu.

Ym mis Ionawr, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal dathliad ar gyfer yr holl gyn-filwyr a chyn-filwyr wrth gefn sy’n gweithio ar hyn o bryd neu sydd wedi gweithio yn y coleg. Bydd hefyd yn defnyddio’r digwyddiad fel cyfle i glywed syniadau cyn-filwyr a chyn-filwyr wrth gefn am yr hyn y gall y coleg ei wneud, i gynorthwyo ymhellach, unigolion sy’n gadael y fyddin gyda’r pontio i’r byd gwaith.

Ychwanegodd Judith Evans, “Mae’r digwyddiad yn ffordd inni roi’n ôl i’n cymuned Lluoedd Arfog, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y maent wedi’i gwneud i’r coleg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau