Mae'r cwrs yn caniatáu i'r dysgwyr feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dilyniant gyrfa neu astudiaeth bellach.
Ar gyfer Tystysgrif Lefel 1 EAL mewn Technolegau Peirianneg (Electroneg), bydd y dysgwr yn astudio: • Cyflwyniad i Weithio mewn Peirianneg • Cyflwyniad i Electroneg • Cyflwyniad i Gosod Trydanol • Cyflwyniad i Fathemateg Sylfaenol a Gwyddoniaeth a ddefnyddir mewn Peirianneg
3 TGAU gradd E neu uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith).
Defnyddir cymysgedd o wahanol ddulliau asesu ar y cwrs. Mae'r rhain yn amrywio o arholiad ar y sgrin ac asesiad ymarferol/theori wedi'i farcio yn y ganolfan.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i gwrs Tystysgrif/Diploma mewn technoleg Trydan ac Electroneg. Byddwch wedi datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol a dealltwraieth sylfaenol o gysyniadau trydan ac electroneg, felly, gallai dysgwyr chwilio am waith ym maes Offeryniaeth a Rheoli Electroneg megis dosbarthiad petrogemegol, nwy a dwr ynghyd â Chydosod ac Awtomeiddio Offer Electronig.
















