Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu am Gylchedau Trydanol, Electroneg Ragarweiniol, Trin a defnyddio cydrannau ac offer electronig, a systemau a dulliau gosod electronig. Hefyd, byddwch yn astudio Gweithrediadau Peirianneg Perfformio (PEO) ochr yn ochr â'ch prif gymhwyster. Hefyd, disgwylir ichi fynychu sesiwn sgiliau a thiwtorialau fel rhan o'ch amserlen lawn amser.
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith).
Asesir y cwrs hwn drwy werthuso cymwyseddau ymarferol yn barhaus ynghyd ag aseiniadau ysgrifenedig ffurfiol ac arholiadau allanol ar-lein.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i gychwyn neu symud ymlaen i yrfaoedd megis: Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur, Peirianneg Trydan ac Electroneg a Chynnal Chadw Gwaith Trydan/Electroneg. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus gallwch symud ymlaen i gwrs tystysgrif VRQ lefel 3 mewn trydan ac electroneg. Ymhlith y llwybrau eraill ymlaen mae Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg neu Ddiploma lefel 2 VRQ mewn Technoleg Peirianneg. Byddai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus hefyd yn darparu llwybr delfrydol i mewn i raglen Brentisiaeth Fodern.