Peirianneg Lefel 2: Peirianneg Drydanol/Electroneg

Mae peirianwyr trydanol ac electroneg yn gweithio gyda'r dechnoleg sy'n pweru ein byd modern - o ffonau clyfar a chyfrifiaduron i systemau ynni adnewyddadwy a cheir trydan. Maen nhw’n dylunio, adeiladu a gwella cylchedau, synwyryddion a systemau rheoli sy'n gwneud dyfeisiau yn fwy smart, yn gyflymach a mwy effeithlon. Gall eu gwaith gynnwys unrhyw beth o raglennu micro-sglodion a datblygu robotiaid i ddylunio gridiau pwer neu systemau cyfathrebu blaengar. Os ydych chi'n chwilfrydig am sut mae trydan, teclynnau a thechnoleg yn gweithio - ac am greu'r genhedlaeth nesaf o arloesedd - gallai peirianneg drydanol ac electroneg fod yn addas i chi. Mae'r rhan fwyaf o ddiwydiannau yn dibynnu ar ryw fath o systemau electroneg / trydanol, a chredir mai peirianneg drydanol ydy’r un o'r mwyaf amrywiol o holl ddisgyblaethau peirianneg. Oherwydd hyn, mae cyfleoedd cyflogaeth ar draws nifer o sectorau.


Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau canolradd sy'n ofynnol gan rywun sy'n gweithio yn y diwydiant peirianneg. Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac asesiadau ymarferol sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion realistig yn y gweithle. Bydd disgwyl i bob dysgwr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'u cwrs galwedigaethol dewisol. Gofynnir i chi hefyd fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r Diploma Lefel 2 yn cynnwys yr unedau canlynol:


Ymwybyddiaeth o amgylchedd peirianneg, technegau peirianneg, egwyddorion Peirianneg, Egwyddorion trydanol ac electronig, Dulliau profi trydanol ac electronig, Systemau a dyfeisiau trydanol ac electronig Yr uned NVQ lefel 1 yw “Cydosod Cylchedau Electronig”.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

4 TGAU gradd D neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith), neu gymhwyster Lefel 1 gyda'r dewis priodol o unedau.


-

Asesiad

Asesir y cwrs drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys arholiad ar-lein, prosiectau ymarferol, aseiniadau, astudiaethau achos a gwaith cwrs. Bydd eich arholiad a'ch portffolio yn cael eu graddio â gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, cewch gyfle i symud ymlaen i raglen Peirianneg Lefel 3, yn amodol ar gymeradwyaeth bwrdd graddio a chyfweliad llwyddiannus. Mae llawer o ddysgwyr hefyd wedi sicrhau prentisiaethau ar ôl cwblhau'r cwrs hwn.

Nodiadau Pellach

Os ydych chi'n llwyddo i ymuno â'r cwrs hwn, bydd gofyn i chi brynu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy'n addas ar gyfer y gwaith ymarferol a gynhelir.





Trafodwch hyn yn y cyfnod cyfweliad gyda'r aelod o staff.



Gall cymorth ariannol fod ar gael yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Holwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:04F210NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd