Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Peirianneg Lefel 2: Gweithgynhyrchu Mecanyddol

Mae peirianwyr mecanyddol yn creu datrysiadau ac yn datrys problemau, gan chwarae rhan ganolog wrth ddylunio a gweithredu rhannau symudol mewn ystod o ddiwydiannau. Fel peiriannydd mecanyddol byddwch yn darparu atebion effeithlon i ddatblygu prosesau a chynhyrchion, yn amrywio o ddylunio cydrannau bach i beiriannau neu gerbydau hynod o fawr. Byddwch yn gweithio ar bob cam o gynnyrch, o ymchwil a datblygu i ddylunio a gweithgynhyrchu, hyd at osod a chomisiynu terfynol.


Mae'r mwyafrif o ddiwydiannau'n dibynnu ar fath o systemau mecanyddol, a chredir bod peirianneg fecanyddol yn un o'r disgyblaethau peirianneg mwyaf amrywiol. Oherwydd hyn, mae cyfleoedd cyflogaeth ar draws sawl sector. Mae'r VRQ (Cymhwyster Cysylltiedig â Galwedigaeth) yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol Peirianneg. Mae'r cymhwyster yn cwmpasu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ar lefel ganolraddol sydd eu hangen ar rywun sy'n gweithio yn y diwydiant peirianneg. Byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac asesiadau ymarferol sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion realistig yn y gweithle. Disgwylir i bob dysgwr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'r cwrs galwedigaethol o'u dewis. Hefyd, gofynnir ichi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ar gyfer y Diploma VRQ, byddwch yn astudio'r unedau canlynol:


• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Peirianneg • Technegau Peirianneg • Egwyddor Mathemateg a Gwyddoniaeth Peirianneg • Technegau Ffitio a Chydosod • Technegau Turnio â Llaw • Technegau Melino â Llaw Ar gyfer y Diploma QPEO mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg, byddwch yn cwblhau'r uned ganlynol: • Paratoi a defnyddio turniau ar gyfer technegau turnio

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D a rhaid i hynny gynnwys ys Mathemateg/Rhifedd, Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith) a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Lefel 1 ynghyd â detholiad priodol o unedau. Cewch eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.

Asesiad

Ymhlith dulliau asesu’r cymhwyster hwn mae arholiad amlddewis ar y sgrin ar gyfer yr uned orfodol ac asesiadau ymarferol a theori a gaiff eu marcio yn y Ganolfan ar gyfer yr unedau dewisol. Caiff yr arholiad amlddewis ar y sgrin ei osod a'i farcio gan EAL. Caiff yr asesiad mewnol ei osod gan EAL a'i farcio gan aelodau o'r tîm addysgu yn y Ganolfan.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus cewch gyfle i symud ymlaen i gwrs Diploma Atodol lefel 3 BTEC mewn Peirianneg neu i gwrs Tystysgrif lefel 3 VRQ mewn Technoleg Peirianneg. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar fwrdd dyfarnu a chyfweliad. Mae llawer o ddysgwyr wedi llwyddo i sicrhau prentisiaeth ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus.

Nodiadau Pellach

You will be required to purchase Uniform (T Shirt and Trousers), safety boots & safety glasses (approx £55). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Rhondda
Cod y Cwrs:04F213RB
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr mecanyddol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr Dylunio a Datblygu:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol ym maes peirianneg n.e.c.:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr cynhyrchu a phroses:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr perianneg:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr gwyddoniaeth, peirianneg a chynhyrchu n.e.c.:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau