Y cyfuniad o unedau ar gyfer y cymhwyster ategol hwn ydy: Prosiect Peirianneg, Egwyddorion Peirianneg, Cyfathrebu ar gyfer technegwyr, Six sigma, a Gosod a phrofi peiriannau prosesu eilaidd.
Rhaid i chi ddangois tystiolaeth eich bod wedi cyflawni Diploma Atodol mewn Peirianneg gyda'r cyfuniadau priodol o unedau.
Y ffordd orau o wneud hyn ydy darparu copi o’ch tystysgrif yn dangos yr unedau a achredwyd ar gyfer tiwtor eich cwrs.
Caiff yr unedau i gyd eu hasesu a’u graddio a dyfernir gradd gyffredinol am y cymhwyster.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae cyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i yrfa fel technegwyr mewn nifer o ddisgyblaethau ym maes peirianneg. Mae llwybr clir i statws corfforedig a siartredig. Mae Diplomas BTEC yn uchel eu parch ymhlith cyflogwr a sefydliadau addysg uwch.