Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau ym meysydd crefft Plymwaith a Theilsio Waliau a Lloriau. Byddwch yn astudio 6 uned graidd: Uned 1 – Yr Amgylchedd Adeiledig Uned 2 – Y Crefftau Uned 3 – Cylch Bywyd Adeilad Uned 4 – Cyflogadwyedd Uned 5 – Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd Uned 6 – Technolegau Datblygol
TGAU Gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Gradd E Saesneg neu Cymraeg (Mamiaith) neu gymwysterau Lefel 1 cyfwerth (yn y grefft hon)
Cewch eich asesu drwy asesiadau ymarferol sy'n dangos eich gallu i wneud y gwaith ac aseiniadau ac arholiadau allanol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i Lefel 2 Dilyniant mewn Gwaith Plymwr neu geisio gwaith yn y diwydiant plymio.
Ar gyfer y cwrs hwn, mae gofyn prynu’r papurach perthnasol, esgidiau blaen dur, oferôls a llawlyfr y cwrs.
Trafodwch hyn gyda thiwtor yn ystod cyfnod y cyfweliad ar ôl i chi wneud cais.








