Yn ystod blwyddyn 1, byddwch yn dod i ddeall egwyddorion ac ymarfer sylfaenol dylunio a chodi adeiladau isel a chanolig a’u strwythur a gweithredu’r dyluniadau hynny.
Byddwch yn ystyried dulliau codi adeiladau newydd a’r gwaith allanol cysylltiedig. Wrth i ddysgwyr fynd yn eu blaen, byddan nhw’n ystyried gwahanol lwybrau gyrfaol er enghraifft: Dylunio pensaernïol, Syrfëwr Meintiau, Rheoli Safle, Syrfeo Tir, Peirianneg sifil a Syrfeo Peiriannol. Rhoddir pwyslais ar ennill sgiliau academaidd a chyflogadwyedd: megis sgiliau ymchwil, gwaith tîm a sgiliau cyflwyno sy’n rhan bwysig or cwrs.
4 TGAU gradd B neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith ).
Bydd dysgwyr yn cwblhau ystod o dasgau ymarferol, aseiniad ysgrifenedig ac arholiadau, Y graddfeydd a ddyfernir ar gyfer pob modiwl yn gyffredinol ydy Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
A dibynnu ar eich gradd gyffredinol bydd gennych ddewis o lwybrau dilyniant. Mynediad i raglenni gradd Prifysgol neu brentisiaeth gradd.
Dylai dysgwyr brynu ‘cof bach’ i’w ddefnyddio yn ystod y cwrs yn ogystal â pheth cyfarpar lluniadu a gaiff ei egluro yn ystod y cyfnod ymrestru. Yn ogystal, ar gyfer y cwrs hwn, mae gofyn prynu esgidiau blaen dur a llawlyfr y cwrs.









