Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Diploma Lefel 1 mewn Technoleg Gwybodaeth (TG)

Cwrs blwyddyn wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu sgiliau sydd ganddynt eisoes sy'n ofynnol gan fusnesau a sectorau TG heddiw. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu sgiliau presennol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth mewn amrywiaeth o yrfaoedd TG, busnes a gweinyddol, gan roi’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau a rheoli ystod o becynnau meddalwedd TG.


Mae’r cwrs hwn yn ddilyniant o sgiliau a gwybodaeth lefel sylfaenol a allai arwain at addysg bellach mewn TG neu feysydd cysylltiedig. Byddai'r cwrs hwn yn rhoi'r hyder i weithio'n effeithiol ym maes TGCh ac ymdrin â thasgau sy'n syml neu'n arferol. Byddai defnyddiwr Lefel 1 yn gallu defnyddio offer TG cyffredin neu sydd wedi'i ddiffinio ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau sy'n syml neu'n arferol, gan nodi a defnyddio dulliau awtomataidd neu ffyrdd amgen o weithio i wella cynhyrchiant.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Diploma Lefel 1 City and Guilds mewn Rhaglenni TG ar gyfer Defnyddwyr TG; BTEC Lefel 1 Tystysgrif Ragarweiniol Technoleg Gwybodaeth, Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu neu Gymhwyso Rhif. Cyfle i sefyll arholiad TGAU mewn Saesneg a Mathemateg (yn ddibynnol ar eich graddau blaenorol).


Byddwch yn astudio rhaglenni meddalwedd Microsoft Office 365. Byddai hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: • Cydweithio a chynhyrchiant • Defnyddio'r rhyngrwyd • Meddalwedd Dylunio • Cynhyrchion amlgyfrwng • Cyflwyniadau TG • Cyfathrebiadau TG (gan gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol)

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU gradd E neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel Mynediad cyfwerth

Asesiad

Mae’r holl ddysgu’n cael ei wneud yn ein hystafelloedd dosbarth TG modern sydd â digonedd o gyfarpar addas. Byddwch yn cwblhau asesiad ym mhob uned y gellir ei gynhyrchu drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys aseiniadau, chwarae rôl, perfformiad ymarferol a chyflwyniadau llafar. Bydd disgwyl i chi weithio i derfynau amser a chynnal ffeiliau eich cwrs a phob portffolio yn ôl y safonau gofynnol. Gydag arweiniad, bydd dysgwr yn gallu gweithredu meddalwedd neu galedwedd gwybodaeth a chyfathrebu gyda gwybodaeth a dealltwriaeth ar y lefel berthnasol mewn amrywiaeth o bynciau y byddant yn ymgymryd â nhw.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallech fod yn gymwys i symud ymlaen i gwrs Lefel 2, fel Lefel 2: Sgiliau Digidol a TG; Sgiliau Mynediad Lefel 2 ar gyfer Astudiaethau Pellach.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 1
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Rhondda
Cod y Cwrs:06F101RA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd