Y sgiliau a ddysgir ar y cwrs hwn yw'r blociau canolradd i lawer o wahanol opsiynau gyrfa a gallant arwain at y cwrs lefel nesaf yn y coleg.
Byddwch yn astudio cymwysiadau meddalwedd o fewn amgylchedd Microsoft Office 365. Byddai hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: • Gydweithio a chynhyrchiant • Defnyddio'r rhyngrwyd • Meddalwedd Dylunio • Cynhyrchion amlgyfrwng • Cyflwyniadau TG • Cyfathrebiadau TG (gan gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol) • Hanfodion Dioglewch TG Bydd y dysgwyr sy’n symud ymlaen o’n cwrs Lefel 1 yn adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddysgwyd eisoes ac yn gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda Chymwysiadau Digidol. Bydd disgwyl i bob dysgwr amser llawn fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'u cwrs galwedigaethol dewisol. Gofynnir i chi hefyd fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o'ch amserlen cwrs amser llawn.
Bydd arnoch angen 4 TGAU gradd A* i D gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg (mamiaith) neu Lefel 1 mewn pwnc galwedigaethol cysylltiedig. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad a byddwch yn cwblhau asesiad llythrennedd a rhifedd i sefydlu unrhyw gymorth sydd ei angen.
Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad a byddwch yn cwblhau asesiad mewn llythrennedd a rhifedd i sefydlu'r cymorth sydd ei angen. Yng Ngholeg y Cymoedd, byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych ac efallai y byddwch yn cael mynediad i gwrs lefel uwch.
Mae’r holl ddysgu’n cael ei wneud yn ein hystafelloedd dosbarth TG modern sydd â chyfarpar da. Byddwch yn cwblhau asesiad ym mhob uned y gellir ei gynhyrchu drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys aseiniadau, chwarae rôl, perfformiad ymarferol a chyflwyniadau llafar. Bydd disgwyl i chi weithio yn unol â therfynau amser a chynnal ffeiliau/portffolios eich cwrs i'r safonau gofynnol. Gydag arweiniad, bydd dysgwr yn gallu gweithredu meddalwedd neu galedwedd gwybodaeth a chyfathrebu gyda gwybodaeth a dealltwriaeth ar y lefel berthnasol mewn amrywiaeth o bynciau y byddant yn ymgymryd â nhw.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallech fod yn gymwys i symud ymlaen i’r cwrs Cymwysiadau Digidol Lefel 3 (TG).