Lefel 2: Sgiliau Digidol a TG

Mae'r cwrs blwyddyn hwn wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr blaenllaw ym myd busnes a Sgiliau Sector i roi dealltwriaeth i chi o'r defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth yn amgylchedd Microsoft Office heddiw. Cwrs sy’n seiliedig ar gymhwysiad yw hwn, sy’n datblygu eich sgiliau a’ch galluoedd i ymdopi ag agweddau mwy cymhleth cymhwyso meddalwedd. Mae’n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn ennill sgiliau a phrofiad ymarferol rhaglenni meddalwedd.


Gallai’r cymhwyster hwn eich helpu i weithio tuag at swydd neu fel sail i swydd fel: • Cynorthwy-ydd cymorth rhaglenni • Swyddog cymorth rhaglenni • Clerc cofnodi data • Gweinyddwr busnes • Cynorthwy-ydd personol • A llawer mwy! Bydd defnyddiwr Lefel 2 yn gallu defnyddio offer TG cyffredin neu sydd wedi'i ddiffinio ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau sydd ar adegau yn anghyfarwydd neu’n anarferol, gan lunio atebion drwy ddefnyddio offer TG i wella cynhyrchiant.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Diploma Lefel 2 City and Guilds mewn TG, Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, a Chymhwyso Rhif. Bydd cyfle hefyd i sefyll arholiad TGAU mewn Saesneg a Mathemateg (yn ddibynnol ar eich graddau blaenorol).


Byddwch yn astudio rhaglenni meddalwedd Microsoft Office 365. Byddai hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: • Cydweithio a chynhyrchiant • Defnyddio'r rhyngrwyd • Meddalwedd Dylunio • Cynhyrchion amlgyfrwng • Cyflwyniadau TG • Cyfathrebiadau TG (gan gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol) • Hanfodion Diogelwch TG Bydd dysgwyr sy’n dilyn ymlaen o’n cwrs Lefel 1 yn adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddysgwyd eisoes ac yn gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda Rhaglenni Digidol. Bydd disgwyl i bob dysgwr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'u cwrs galwedigaethol dewisol. Hefyd, bydd gofyn i chi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd arnoch angen 4 TGAU gradd A* i D gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Lefel 1 mewn pwnc galwedigaethol cysylltiedig. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad a byddwn yn cynnal asesiad mewn llythrennedd a rhifedd i sefydlu'r cymorth sydd ei angen.


Yng Ngholeg y Cymoedd byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi a gall olygu y byddwch yn cael mynediad at gwrs lefel uwch.

Asesiad

Mae’r holl ddysgu’n cael ei wneud yn ein hystafelloedd dosbarth TG modern sydd â digonedd o gyfarpar addas. Byddwch yn cwblhau asesiad ym mhob uned y gellir ei gynhyrchu drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys aseiniadau, chwarae rôl, perfformiad ymarferol a chyflwyniadau llafar. Bydd disgwyl i chi weithio i derfynau amser a chynnal ffeiliau eich cwrs a phob portffolio yn ôl y safonau gofynnol. Gydag arweiniad, bydd dysgwr yn gallu gweithredu meddalwedd neu galedwedd gwybodaeth a chyfathrebu gyda gwybodaeth a dealltwriaeth ar y lefel berthnasol mewn amrywiaeth o bynciau y byddant yn ymgymryd â nhw.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallech fod yn gymwys i symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 3 mewn Rhaglenni TG ar gyfer Busnes.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Rhondda
Cod y Cwrs:06F202RA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a chyfarwyddwyr cyllid:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cyfarwyddwyr Marchnata a Gwerthu:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cyfarwyddwyr Hysbysebu a Chysylltiadau Cyhoeddus:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a chyfarwyddwyr pryniant:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cyfrifyddion siartredig ac ardystiedig :
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol maes cysylltiadau cyhoeddus:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau