Byddwch yn archwilio hanfodion TG ac yn meithrin sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth i ddylunio, creu ac adolygu gwahanol fathau o dechnolegau meddalwedd a chaledwedd. Byddwch yn dysgu popeth am y byd ar-lein, sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, egwyddorion rhwydweithio a chymorth TG ynghyd â sgiliau mewn dylunio gwefan, graffeg ddigidol ac animeiddio digidol.
Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith) neu Lefel 1 mewn pwnc galwedigaethol cysylltiedig.
Byddwch yn cael eich asesu gyda chyfuniad o aseiniadau, profion ar-lein ar gyfer un uned a thasgau ymarferol a thasgau sy’n gysylltiedig â gwaith.
Gall cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gynnig cyfleoedd i symud ymlaen i ddysgu pellach yn L3, prentisiaeth neu gyflogaeth.