Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth

Mae'r Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw yn gwrs dwy flynedd llawn amser, a ddyfernir gan Brifysgol De Cymru. Anogir myfyrwyr i gwblhau blwyddyn olaf yn yr Atriwm, Prifysgol De Cymru i ennill gradd anrhydedd lawn. Bydd myfyrwyr sy'n dymuno astudio yn Nantgarw yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Brifysgol (gan gynnwys y llyfrgell ac undeb y myfyrwyr) a byddant yn gallu mynychu sgyrsiau siaradwyr gwadd, gan ganiatáu profiad integredig cyffredinol.


Bydd y cwrs hwn yn rhoi ystod eang o sgiliau ffotograffig creadigol a thechnegol i fyfyrwyr trwy aseiniadau ysgogol, gan gynnwys ffotograffiaeth ddigidol, gwaith stiwdio a lleoliad eang (gan gynnwys teithiau maes) a ffotograffiaeth ffilmiau arian traddodiadol. Ymwelir yn rheolaidd ag amgueddfeydd ac orielau yn Llundain i ysbrydoli myfyrwyr ac i sicrhau eu bod yn edrych ar y ffordd y mae amrywiol artistiaid a ffotograffwyr yn gweithio. Cyflwynir yr addysgu trwy gyfuniad o weithdai, darlithoedd, sesiynau tiwtorial a briffiau byw. Mae'r cwrs yn ymarferol ei natur ac yn cynnig dehongliadau myfyrwyr a chreadigrwydd briffiau aseiniad. Mae'r cwrs wedi'i strwythuro gyda modiwlau, asesiadau, gwaith cwrs, cyflwyniadau a thraethodau pwnc-benodol. Fel arfer, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu gwaith ymarferol yn unigol, ond weithiau byddant yn gweithio mewn grwpiau.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn magu'r sgiliau, y profiad a'r hyder i ymgeisio am swyddi perthnasol o fewn y diwydiannau creadigol a / neu ddeall sut i gymhwyso'r sgiliau hyn i'w busnes eu hunain wrth gwblhau'r cwrs.


Bydd myfyrwyr yn dysgu gwybodaeth gadarn am hanes ffotograffiaeth a datblygiadau modern. Mae pwyslais cryf ar ymarfer, gydag aseiniadau amrywiol a diddorol mewn ffotograffiaethyddiaeth, ffotograffiaeth ddogfennol, ffotograffiaeth ffasiwn, ffotograffiaeth stiwdio, ffotograffiaeth tirwedd, ffotograffiaeth fasnachol, dulliau celfyddyd gain a dulliau ffotograffig amgen. Ar ddiwedd y cwrs dylai myfyrwyr allu: • Meddu ar ddealltwriaeth o ffotograffiaeth fel ffurf celf a / neu fel llwybr gyrfa • Dysgu sut i ddefnyddio'r camera i'w botensial llawn ee gosodiadau â llaw a chyfarpar sydd eu hangen at ddibenion penodol • Deall technegau golygu delweddau ac ôl-gynhyrchu • Dysgu gwybodaeth am ffotograffiaeth o safbwynt hanesyddol a chyfoes • Datblygu cyfleoedd i gael gyrfa mewn ffotograffiaeth • Gwneud cysylltiadau â'r diwydiant ffotograffig wrth gynnal briffiau 'byw' a phrosiectau dysgu yn y gwaith Nod y Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yw rhoi profiad addysgu a dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr sy'n berthnasol i'r diwydiannau creadigol ar gyfer ymarfer cyfoes. Mae'n bwysig bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth glir o hanes ffotograffiaeth ac yn adnabod sut i ddatblygu gwybodaeth sy’n benodol i Ffotograffiaeth a'r amgylchedd cyfnewidiol y mae'n gweithredu ynddi.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 48 o bwyntiau UCAS ar fyfyrwyr, mae hyn yn cyfateb i · 2 Safon Uwch (Gradd D neu'n uwch) neu · Cymhwyster BTEC Lefel 3 perthnasol gyda theilyngdod/pas ar gyfer Diploma Lefel 3 neu Pas/Pas/Pas ar gyfer Diploma Estynedig Lefel 3 neu · Profiad diwydiannol perthnasol. Fodd bynnag, yn achos ymgeiswyr hyn, bydd disgwyl i chi arddangos gallu i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ac fel arfer yn meddu ar brofiad proffesiynol a/neu gymwysterau amgen.


Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy'n frwdfrydig ac sy'n dangos ymrwymiad cryf i'r celfyddydau gweledol. Caiff y sawl sydd heb gymwysterau o'r fath eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cyfweliad sy'n seiliedig ar bortffolio lle bydd gofyn iddynt ddangos sgiliau a chymhwysedd ffotograffig wrth ddefnyddio SLR Digidol.

Asesiad

Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gwblhau gwaith cwrs yn seiliedig ar aseiniadau, ysgrifennu traethodau, cyflwyniadau, gwaith portffolio ac ymarferol, cyfnodolyn adfyfyriol (ar-lein a chorfforol), adroddiadau a chymryd rhan mewn tasgau grwp, briffiau 'byw' a gweithgareddau yn y gweithle. Mae'r dyddiadau cau wedi'u gwasgaru ar hyd y flwyddyn. Bydd myfyrwyr yn derbyn manylion y gofynion asesu yn ystod pob modiwl gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.

Dilyniant Gyrfa

Fel ffotograffydd proffesiynol, o bosibl un hunangyflogedig, efallai y bydd myfyrwyr yn dewis arbenigo mewn maes megis ffotograffiaeth ffasiwn, hysbysebu, golygyddol, dogfennol, diwydiannol, gwyddonol neu fforensig hyd yn oed. Mae rolau'n bodoli mewn busnesau creadigol, cyhoeddwyr ac asiantaethau ffotograffig, neu yn y sector addysg neu'r sector cyhoeddus - gallai'r rhain gynnwys curadur ffotograffiaeth, dosbarthwr ffotograffig, ymchwilydd lluniau neu gynorthwyydd stiwdio ffotograffig.

Nodiadau Pellach

Mae'r cwrs yma yn rhedegr 9:00am-4:00pm.
Bydd angen eich SLR Digidol eich hun (yn ddelfrydol gyda lensys cyfnewidiadwy) ar gyfer y cwrs hwn. Yn ogystal, bydd gofyn chi brynu deunyddiau eraill megis: Cardiau cof, tripod, bag camera, gyriannau USB, llyfrau braslunio / ffeiliau a phortffolio A3.

Gellir prynu rhai o'r deunyddiau hyn yn ein Siop Gelf am bris gostyngol i fyfyrwyr. Fel rhan o'r gofynion ar gyfer gwahanol Fodiwlau, bydd gofyn ichi brynu'ch printiau eich hun hefyd. Bydd eich Arweinydd Modiwl yn eich cynghori ar y lleoedd gorau i gael eich lluniau wedi'u hargraffu.

Mae'r staff Ffotograffiaeth Gradd Sylfaen yn annog dysgwyr i adeiladu eu proffil ffotograffig eu hunain trwy fynd i gystadlaethau a rhannu eu gwaith cyffredinol o ddydd i ddydd trwy gyfryngau cymdeithasol. Mae gan y cwrs wefan Blog hefyd i hyrwyddo dilyniant ein dysgwyr presennol a dangos eu gwaith gan ganiatáu i fyfyrwyr newydd a darpar fyfyrwyr ddilyn y profiad dysgu. Gweler y dolenni isod ...


http://cycphoto.wixsite.com/colegycymoedd

Instagram: cycphotonantgarw

Facebook: CYC Photography

Dim ceisiadau gan fyfyrwyr o wledydd tramor nad ydynt yn hanu o'r UE

Information for UCAS and Student Finance Wales...

Creative Industries (Photography)
Course Code: W640
Institution Code: W01

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 5
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:06F504NA
Ffioedd
HE Tuition Fee Year 1: £7500
Studio Fee: £100

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Ffotograffwyr, gweithwyr ym maes offer clyweledol a darlledu:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau