Byddwch yn astudio ystod o unedau a fydd yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i chi o egwyddorion gweithio mewn rôl fusnes.
Byddwch yn astudio 5 uned orfodol a 6 uned ddewisol a ddewisir gan dîm y cwrs yn seiliedig ar ofynion ac anghenion y diwydiant. Mae unedau'n ymdrin ag ystod o bynciau busnes gan gynnwys: Menter, brandio, marchnata, cyllid, gwasanaeth cwsmeriaid, recriwtio, busnes ar-lein a rheoli. Hefyd, byddwch yn astudio unedau opsiynol gan gynnwys Cyfathrebu Llafar a Di-eiriau mewn Cyd-destunau Busnes, Cyfathrebu Busnes drwy Ddogfennaeth, Busnes Ar-lein a Chysylltiadau Cwsmer mewn Busnes.
4 TGAU gradd D neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 1 cyfwerth
Mae'r asesiad yn bennaf trwy asesiadau mewnol ar ffurf aseiniadau a gwaith ymarferol gyda rhai asesiadau ac arholiadau a reolir yn allanol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i gymhwyster Busnes Lefel 3, prentisiaeth neu gyflogaeth.








