Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg

Mae'r cymhwyster cyfrifeg AAT yn rhoi sgiliau ymarferol, ariannol a chyfrifyddu i chi, sgiliau y sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac a all agor drysau i chi mewn unrhyw ddiwydiant ar draws y byd.


Cymhwyso gydag AAT ydy’ch llwybr i: • Aelodaeth o AAT • Gyrfa ym maes cyllid, ennill hyd at 15% yn fwy na staff heb gymhwyso • Cyfrifeg Siartredig • Gradd prifysgol • Gweithio dramor. Ewch i wefan AAT am ragor o wybodaeth – www.aat.org.uk Yn ogystal â ffioedd dysgu, bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am y canlynol: Ffi Cofrestru AAT: y gost gyfredol yn £228 Gwerslyfrau Tiwtorial 'Osborne Books' x4: cost gyfredol £15 - £23 yr un * Ffioedd ail-sefyll arholiad: y gost gyfredol ydy £61 yr un * mae rhai gwerslyfrau ar gael o'r Ganolfan Adnoddau Dysgu - y cyntaf i’r felin piau hi. Costau yn gywir adeg cyhoeddi hyn.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae’r Diploma mewn Cyfrifeg yn cynnwys y canlynol: Ymwybyddiaeth o Fusnes, sy’n ystyried amgylchedd busnes, rheolaeth, moeseg a chynaliadwyedd; Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol, delio ag agweddau o baratoi cyfrifon ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau; Technegau Cyfrifyddu Rheoli sy’n ystyried dulliau safonol o baratoi a chyflwyno data cyfrifyddu rheoli; a phrosesau Treth ar gyfer busnes yn ystyried ffurflenni TAW a chyflogres PAYE.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch angen Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg. Neu, bydd angen i ymgeiswyr heb Lefel 2 ddarparu tystiolaeth o ddealltwriaeth drylwyr o egwyddorion cadw cyfrifon drwy astudiaeth flaenorol neu brofiad gwaith a 5 pwnc TGAU gradd A-C yn cynnwys iaith Saesneg/Cymraeg a bydd angen mynychu cyfweliad gyda thiwtor AAT.


Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Yng Ngholeg y Cymoedd, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich asesiadau. Po uchaf ydy’ch graddau, gwell fydd eich opsiynau a gallai olygu eich bod yn cael mynediad i gwrs uwch ei lefel.

Asesiad

Defnyddir Asesiadau a luniwyd gan AAT ar Gyfrifiadur i asesu pob maes dysgu’r cymhwyster hwn.

Dilyniant Gyrfa

Bydd cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:02/09/2024
Dyddiau:Monday & Wednesday
Amser:18:00 - 21:00
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:15E305NA
Ffioedd
Examination Fee: £265
Tuition Fee: £534

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau