Mae’r Diploma mewn Cyfrifeg yn cynnwys y canlynol: Ymwybyddiaeth o Fusnes sy’n ystyried amgylchedd busnes, rheolaeth, moeseg a chynaliadwyedd; Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol, delio ag agweddau o baratoi cyfrifon ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau; Technegau Cyfrifyddu Rheoli, sy’n ystyried dulliau safonol o baratoi a chyflwyno data cyfrifyddu rheoli; a phrosesau Treth ar gyfer busnes gan ystyried ffurflenni TAW a chyflogres PAYE.
Ategir y cymhwyster cyfrifeg gydag astudiaeth o sgiliau hanfodol naill ai o ran llythrennedd digidol neu gyflogadwyedd, sy’n hanfodol ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa ym maes cyfrifeg.
Bydd angen o leiaf gradd Teilyngdod yng nghwrs Tystysgrif Lefel 2 Cyfrifeg. Neu, bydd angen i ymgeiswyr heb Lefel 2 ddarparu tystiolaeth o ddealltwriaeth drylwyr o egwyddorion cadw cyfrifon drwy astudiaeth flaenorol neu brofiad gwaith a 5 pwnc TGAU gradd A-C, yn cynnwys iaith Saesneg/Cymraeg a bydd angen mynychu cyfweliad gyda thiwtor AAT.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Yng Ngholeg y Cymoedd, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich asesiadau. Po uchaf ydy’ch graddau, gwell fydd eich opsiynau a gallai olygu eich bod yn cael mynediad i gwrs uwch ei lefel.
Defnyddir Asesiadau a luniwyd gan AAT ar Gyfrifiadur i asesu pob maes dysgu’r cymhwyster hwn. Mae asesiadau Sgiliau Hanfodol yn asesiadau wedi’u hamseru a’u cynnal yn yr ystafell ddosbarth o dan amodau arholiad a/neu'n asesiadau ar gyfrifiadur.
Bydd cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol. Neu mae Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn golygu pwyntiau UCAS y gellir eu defnyddio i gael mynediad i gwrs prifysgol.
AAT registration and membership fees are payable for this course. These fees will be discussed at interview stage.