Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 1 Gwallt a Harddwch Cyfunol

Cynlluniwyd y cymhwyster cyfunol, trin gwallt a therapi harddwch, yn benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol yn y ddau broffesiwn drwy'r unedau canlynol: Siampwio a chyflyru gwallt, Steilio a phlethu gwallt, gwella golwg y dwylo a'r traed gyda thriniaethau dwylo a thraed, Gofal croen i wella golwg a graen y croen. Hefyd, er mwyn gwella'ch sgiliau ymhellach, byddwch yn astudio gwaith Derbynnydd sy'n elfen bwysig wrth ddysgu sut i ddelio â chleientiaid a'u hymholiadau, gwneud apwyntiadau ac ateb y ffôn yn y modd priodol.


Pwrpas y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth gadarn o drin gwallt a hefyd datblygu’ch dealltwriaeth o’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’ch cynorthwyo yn y diwydiant trin gwallt a harddwch a therapi harddwch, megis dyletswyddau derbynfa’r salon, cydweithio ag eraill, cyflwyno delwedd broffesiynol a chyflwyniad i’r sector trin gwallt a harddwch. Diben y cymhwyster hwn ydy datblygu’ch sgiliau ym maes trin gwallt a therapi harddwch a bydd yn rhoi'r sylfaen ichi ar gyfer dysgu pellach a dilyniant i Lefel 2 naill ai ar gyfer trin gwallt neu therapi harddwch. Bydd hefyd yn eich galluogi i berfformio'ch gwasanaethau sylfaenol eich hun ac i gynorthwyo pobl eraill yn y salon.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio: Unedau sy'n adlewyrchu anghenion y proffesiwn Trin Gwallt a Harddwch. Safonau Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch, tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa yn y sector hwn.


Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. Mae'r cwrs yn cynnwys gwersi theori ac ymarferol yn seiliedig ar lawer o gyfleoedd i weithio mewn amgylchedd masnachol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU gradd E neu uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith), neu gymwysterau cyfwerth ar lefel Mynediad. Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn

Asesiad

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i’ch asesu sy’n cynnwys asesu parhaus, drwy arsylwi eich gwaith ymarferol, cwblhau gwaith portffolio, tystiolaeth theori ac aseiniadau. Ceir arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol neu dasgau dan reolaeth hefyd.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i Raglen Lefel 2 Therapi Harddwch neu Raglen Lefel 2 Trin Gwallt. Argymhellir yn gryf i chi astudio Lefel 2/3 er mwyn cyflawni’ch potensial ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant

Nodiadau Pellach

Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.



Ar gyfer y cwrs hwn, mae gofyn i chi gael gwisg salon, cit cyfarpar a ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn.

Trafodir amcan-gostau, manylion sut i archebu/talu a darpar geisiadau am gymorth /cefnogaeth ariannol mewn cyfweliad a’u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau gan gyflenwyr.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 1
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:7BF104AA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd