Byddwch yn astudio unedau a fydd yn adlewyrchu anghenion y proffesiwn Trin Gwallt tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa o fewn y sector hwn a byddwch yn astudio agweddau o drin gwallt i’ch galluogi i weithio fel steilydd gwallt gan gynnwys: Dilyn arferion iechyd a diogelwch yn y salon; siampwio a chyflyru’r gwallt a'r pen; y grefft o drin gwallt; ymgynghori â'r cleient am y gwasanaethau gwallt; y grefft o liwio gwallt, gweithio yn y diwydiant trin gwallt a chreu delwedd ar thema o fewn y sector trin gwallt a harddwch.
Bydd gofyn chi gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Trin Gwallt yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Trin Gwallt. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn.
Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwadau o’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, efallai y byddwch yn penderfynu mynd i mewn i gyflogaeth fel steilydd iau. Os byddwch yn penderfynu symud ymlaen i raglen Lefel 3 Trin Gwallt ac rydyn ni'n argymell hyn er mwyn i chi gyflawni’ch potensial llawn ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant; Artist Lliwio; Steilio Gwallt i'r Cyfryngau, Steilydd Gwallt ar Fordeithiau, Perchennog Salon, Darlithydd a Hyfforddwr/Asesydd.
Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Mae gofyn i chi gael Gwisg Salon, cit cyfarpar a thalu ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn.
Trafodir amcan-gostau, manylion archebu/talu a darpar geisiadau am gymorth /cefnogaeth ariannol mewn cyfweliad a’u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau gan gyflenwyr.






