Byddwch yn astudio unedau sy’n adlewyrchu anghenion proffesiwn y Barbwr, tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa o fewn y sector hwn sef:
Gwasanaethau tylino’r pen neu Batrymu’r Gwallt (a dibynnu ar y campws), Technegau traddodiadol a modern gwaith barbwr, yr ymarferol a’r theori, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch Gwasanaethau Cwsmeriaid.
4 TGAU gradd D neu uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith), neu gymwysterau cyfwerth ar lefel 1. Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Defnyddir ystod o ddulliau I asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a phortffolio Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i gwrs Gwaith Barbwr Lefel 3, Trin Gwallt Lefel 2 a 3.
Mae yna asesiad o sgiliau ymarferol yn rhan o’r broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Mae gofyn i chi gael Gwisg Salon, cit cyfarpar a thalu ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn. Trafodir amcan-gostau, manylion archebu/talu a darpar geisiadau am gymorth / cefnogaeth ariannol mewn cyfweliad a’u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau gan gyflenwyr.






