Yn sail i’r cymhwyster hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn am fonitro iechyd a diogelwch wrth weithio yn y diwydiant gwaith barbwr. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sgiliau ymarferol y byddwch yn eu dysgu drwy gydol y cwrs hwn. Pwrpas y cymhwyster hwn ydy datblygu’ch sgiliau ymarferol i lefel uchel o allu galwedigaethol i’ch galluogi i gynnal eich gwasanaethau yn eich salon eich hun. Mae cyfanswm o 3 uned; Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon; Torri gwallt dynion i greu steiliau gwahanol; torri blew wyneb i greu steiliau gwahanol.
Bydd angen i chi gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor personol. Efallai, bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Gwaith Barbwr. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L3 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol.
Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau e-bortffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a holi ar lafar ac arholiadau ar-lein.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallech symud ymlaen i gymwysterau sgiliau sector eraill.