Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ichi weithio'n gymwys fel uwch-ymarferydd yn y diwydiant ewinedd. Drwy gydol y cymhwyster hwn byddwch yn monitro ac yn cynnal arferion iechyd a diogelwch ac yn gosod a chynnal gwelliannau ewinedd gan ddefnyddio Hylif a Phowdwr a Gel Uwchfioled.
Er mwyn gwella eich sgiliau ymhellach, byddwch yn astudio'r unedau canlynol hefyd: Datblygu ystod o ddelweddau ewinedd creadigol; Cynllunio a chreu dyluniadau celf ewinedd; Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo; Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio defnydd lapio. Hefyd, bydd gofyn ichi gwblhau: Lefel 3 Cyfathrebu, Lefel 3 Cymhwyso Rhif a Lefel 3 Gweithio gyda Phobl Eraill.
NVQ/VRQ (neu gyfwerth) Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu NVQ/VRQ (neu gyfwerth) Tystysgrif Dwylo L2. Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Asesir drwy arsylwi gwaith ymarferol, cwestiynau llafar, cwestiynau ysgrifenedig ac arholiadau a osodir yn allanol. Bydd angen i chi greu portffolio o dystiolaeth.
Mae hwn yn gymhwyster cydnabyddedig ar gyfer gweithio fel uwch dechnegydd ewinedd. Mae hefyd yn darparu llwyfan gadarn I ddysgu neu hyfforddiant pellach. Gallech symud ymlaen I gymwysterau galwedigaethol arbenigol VTCT ar Lefel 3 a 4
Mae gofyn i chi brynu Cyfarpar a Chit ar gyfer y cwrs hwn. Trafodwch hyn gyda thiwtor ar adeg cyfweliad ar ôl I chi wneud cais.
Mae yna asesiad sgiliau ymarferol fel rhan o'r broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.









