Byddwch yn astudio: Iechyd a Diogelwch mewn Salon; Ymgynghori â'r Cleient er mwyn Pennu eu Gofynion; Adnabod Gwrtharwyddion a allai Effeithio ar y Gwasanaeth; Paratoi'r Ewin Naturiol; Gosod Tipiau; Gwella Ymddangosiad yr Ewin Naturiol a Chynnal a Thrwsio Ewinedd gan ddefnyddio System Ewinedd Hylif a Phowdr.
Bydd angen cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth mewn Trin Ewinedd yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai hefyd, y gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L3 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol
Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys aseu parhaus: arsylwi ar eich gwaith ymarferol; cwblhau portffolio; tystiolaeth ddamcaniaethol ac aseiniadau. Mae arholiadau allanol. Cewch eich asesu ar eich cymhwysedd galwedigaethol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, fe allech chi geisio cyflogaeth neu fod yn hunangyflogedig fel technegydd ewinedd neu barhau â'ch astudiaethau.