Mae'r cymhwyster yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio'n effeithiol fel uwch-drinydd/uwch-steilydd gwalltiau gan gynnwys: iechyd a diogelwch, ymgynghori â'r cleient, torri o safon uwch, steilio, technegau lliwio a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau i gleientiaid
Mae'r unedau hyn i gyd yn rhai gorfodol. Bydd y dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau drwy ddewis nifer o unedau opsiynol arbenigol sydd yn cynnwys: cywiro lliw gwallt a steilio gwallt priodferch. Byddwch yn astudio: y gelfyddyd greadigol o dorri gwallt merched, sgil artistig lliwio gwallt; deheurwydd dychmygus steilio ac addurno gwallt, a sut i ddarparu help ymgynghorol effeithiol ar gyfer cydweithwyr. Er mwyn datblygu’ch sgiliau ymhellach cewch gyfle i astudio trin gwallt ar gyfer priodas ac uned dechnegol ar gywiro lliw
5 TGAU gradd C neu uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith), neu gymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt. Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau a fydd yn cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio ar-lein, tystiolaeth theori a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol ar-lein a phortffolios Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, gallech chwilio am waith fel steilydd, addysgwr/wraig ar ran gweithgynhyrchwyr, fel arddangosydd, gwaith arddangosfeydd a theledu, arbenigwyr neu dechnegwyr ar liwio gwalltiau.
Mae yna asesiad sgiliau ymarferol fel rhan o'r broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Mae angen i chi gael Gwisg Salon, cit cyfarpar ar gyfer y cwrs a thalu ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn. Bydd yr amcan-gostau, manylion ar gyfer archebu/talu a chais posibl am gefnogaeth/cymorth arian yn cael eu trafod yn ystod y cyfweliad a'u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau cyflenwyr.







