Diploma Estynedig Lefel 4 ar gyfer Ymarferwyr Creadigol (Cerddoriaeth)

Diploma Estynedig L4 mewn Datblygu Artist yng Ngholeg y Cymoedd yw'r rhaglen gyntaf o'i math yng Nghymru. Rydym yn falch o fod yn cynnig Diploma Estynedig RSL L4 ar gyfer Ymarferwyr Creadigol - cwrs y mae Ed Sheeran a Rita Ora wedi’i ddilyn yn y gorffennol. Prif ffocws y cymhwyster yw hyfforddi, meithrin a datblygu ymarfer artistiaid uchelgeisiol a chrewyr/cynhyrchwyr cerddoriaeth yn yr un modd ag y gwnaeth labeli recordio ddefnyddio cytundebau datblygu yn y dyddiau a fu.


Yn eich addysgu fydd ein tîm arbenigol o diwtoriaid sydd â gwybodaeth bwnc arbenigol, set o sgiliau arbenigol a phrofiad o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Byddwch yn dysgu adnabod eich marchnad, mireinio'ch brand a rhoi sglein ar eich sgiliau ymarferol drwy gydol y cwrs a fydd yn rhoi’r siawns orau ichi o lwyddo fel ymarferydd creadigol mewn diwydiant cystadleuol iawn.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio nifer o feysydd yn y diwydiant cerddoriaeth gyda'r bwriad o adeiladu eich gwybodaeth am y farchnad gerddoriaeth a sut i ddatblygu'ch brand eich hun.


Byddwch yn dysgu am ddatblygu brand yn ogystal â mireinio'ch sgiliau perfformio a chynhyrchu. Bydd y broses hon yn gorffen gyda phrosiect terfynol lle byddwch chi'n cyflwyno'ch cynnyrch wedi'i frandio (Albwm, EP, tâp ac ati) cyn gwerthuso a myfyrio ar eich profiad.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Disgwylir i ddysgwyr sy'n cymryd y cymhwyster hwn fod yn 18+ ac mae'n ofynnol iddynt fod wedi cwblhau rhaglen 3 Safon Uwch, neu gymhwyster galwedigaethol Diploma Estynedig Lefel 3 cyfatebol.


Yn ogystal, bydd proses gyfweld a chlyweliad ar ôl gwneud cais.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o gynlluniau, adroddiadau a gwerthusiadau ysgrifenedig er mwyn mesur eich dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau, cynnwys arbenigol a'ch gallu i hunanfyfyrio, yn ogystal ag asesiadau ymarferol ar sail cymhwysedd a fydd yn arwain at gwblhau prif brosiect terfynol.

Dilyniant Gyrfa

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch yn y Brifysgol, gwella'ch siawns o gael cyllid rhanbarthol a chynyddu'r tebygolrwydd o gael gyrfa lawrydd lwyddiannus fel artist, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd, cyfansoddwr neu ymarferydd creadigol arall yn y dyfodol.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 4
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9AF402NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Studio Fee: £40

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cerddorion:
Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau