Lefel 1 Diploma Rhagarweinol mewn Celf a Dylunio

Datgloi eich potensial creadigol gyda'n cwrs Diploma Lefel 1 mewn Celf a Dylunio.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn celf a dylunio ac sy'n dymuno archwilio a datblygu'r diddordeb hwnnw drwy brofiad dysgu ymarferol a throchi.

Dyma lle mae gyrfaoedd fel artistiaid, darlunwyr, ffotograffwyr, dylunwyr a gwneuthurwyr yn dechrau. Byddwch yn archwilio meysydd allweddol gan gynnwys lluniadu a phaentio, dylunio a cherflunio 3D, ffotograffiaeth, a gwneud printiau.

Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn profi eu creadigrwydd o fewn strwythur a fydd yn darparu sylfaen gadarn o sgiliau a gwybodaeth. Er bod y cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar y celfyddydau gweledol, mae hefyd yn cynnwys unedau sy'n cefnogi datblygiad parhaus sgiliau pwysig megis ymchwil gyd-destunol, cyfathrebu, a datrys prosiectau sy'n seiliedig ar amser.

Mae ein rhaglen yn pwysleisio profiad ymarferol ac fe'i cyflwynir yn bennaf mewn stiwdios celf pwrpasol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig yr hyblygrwydd a'r arweiniad sydd eu hangen arnoch i archwilio eich angerdd creadigol.

Ymunwch â ni i ddatblygu eich sgiliau artistig, magu hyder, a chymryd y camau cyntaf tuag at ddyfodol yn y Diwydiannau Creadigol!


Mae ein rhaglen yn pwysleisio profiad ymarferol, ac wedi’i leoli’n bennaf mewn stiwdios celf penodol. Mae’r cwrs yn cynnig yr hyblygrwydd a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch i archwilio'ch diddordeb. Ymunwch â ni i ddatblygu eich sgiliau artistig, cynyddu eich hyder, a chymryd y camau cyntaf tuag at ddyfodol yn y Diwydiannau Creadigol!

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r Dyfarniad a Diploma Lefel 1 mewn Celf a Dylunio yn gwrs blwyddyn o hyd, wedi'i gynllunio i roi cyflwyniad i'r sector creadigol i ddysgwyr. Mae'n eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau dilyniant yn y dyfodol, tra'n datblygu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth ac ennill ystod o sgiliau ymarferol, cyfathrebu a datblygiad personol perthnasol.

Mae'r cwrs wedi'i strwythuro'n gyfanswm o saith uned orfodol.

Mae Unedau 1 a 2 yn ffurfio'r Dyfarniad, gan roi cyfle i archwilio deunyddiau, dulliau a phrosesau sy'n cefnogi llawer o weithgareddau celf a dylunio, ac i ddechrau datblygu sgiliau cysylltiedig.

Cyflawnir y Diploma mewn Celf a Dylunio drwy gwblhau Unedau 3 i 7, sydd wedi'u cynllunio i adeiladu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gafwyd drwy'r Dyfarniad, gan ddarparu cyfle i archwilio, datblygu a phrofi creadigrwydd.

Mae Uned 7 yn Brosiect Mawr Terfynol, sy'n galluogi myfyrwyr i ddangos yr holl ddysgu sydd wedi digwydd drwy gwblhau'r unedau eraill, drwy gymhwyso eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth er mwyn cwblhau aseiniad yn llwyddiannus.




Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU gradd E neu uwch (gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf). A/neu Dystysgrif Estynedig Mynediad Lefel 3 ar radd Teilyngdod, ynghyd â chymwysterau sgiliau Mynediad Lefel 3 perthnasol.

Asesiad

Mae pob uned yn cael ei hasesu a'i safoni'n fewnol, yn amodol ar weithdrefnau sicrhau ansawdd y Corff Dyfarnu.

Mae Dyfarniad Lefel 1 yn cynnwys dwy uned orfodol (Unedau 1 a 2), y mae'n rhaid eu cwblhau'n llwyddiannus cyn symud ymlaen i'r unedau sy'n weddill (Unedau 3 i 7) er mwyn ennill y Diploma.

Caiff yr uned olaf ei safoni'n allanol gan y Corff Dyfarnu a'i graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, ac mae'n pennu gradd gyffredinol y cymhwyster.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r Diploma Lefel 1 mewn Celf a Dylunio yn llwyddiannus gyda gradd Teilyngdod neu uwch, a sicrhau Pas mewn Sgiliau Lefel 1, byddwch yn gymwys i wneud cais am ein cwrs Lefel 2 mewn Celf a Dylunio.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 1
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:06/09/2027
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9BF102NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd