Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol (Creu Cynnwys, Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata)

Nod y cwrs ydy rhoi dealltwriaeth drylwyr i ddysgwyr o strategaeth farchnata yn ogystal â’r sgiliau cynhyrchu yn y cyfryngau digidol sydd eu hangen i greu deunyddiau marchnata ar gyfer unigolion a busnes. Bydd dysgwyr yn defnyddio ystod o gyfarpar y diwydiant megis camerâu, goleuadau a meicroffonau, yn ogystal ag ystod o feddalwedd golygu drwy’r Adobe Creative Cloud. Bydd myfyrwyr yn defnyddio hyn i greu print, sain, fideo a chynnwys byr i’r cyfryngau cymdeithasol fel deunydd marchnata. Mae’r cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth ddamcaniaethol o farchnata a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer creu cynnwys. Ar y cwrs hwn, caiff dysgwyr y cyfle i weithio’n annibynnol yn ogystal â gweithio fel rhan o dîm ehangach i greu deunyddiau marchnata’r cyfryngau digidol. Addysgir y cwrs gan arbenigwyr sydd â phrofiad ym maes addysg ond hefyd brofiad yn y diwydiant marchnata.


Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gan ddysgwyr y sylfaen i symud ymlaen i gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 a bydd ganddyn nhw’r set o sgiliau a all eu darparu ar gyfer gweithio yn y cyfryngau cymdeithasol, marchnata, hysbysebu, dylanwadu, cysylltiadau cyhoeddus a chynhyrchu yn y cyfryngau digidol creadigol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd dysgwyr yn astudio ar gyfer cwrs Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol. Llwybr blwyddyn ydy hwn a luniwyd ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa greadigol, yn benodol ym maes creu cynnwys, y cyfryngau cymdeithasol a marchnata.


Gall prosiectau amrywio ond gallai dysgwyr gael y cyfle i greu marchnata digidol ar ffurf podlediadau, posteri, trêls, fideos byr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau, blogiau a flogiau. Wrth gwblhau’r prosiectau hyn, bydd dysgwyr yn creu gwaith i ddiwallu meini prawf unedau’r cwrs a welir isod. Unedau’r Cwrs - Rhagarweiniad i ddulliau a sgiliau cyfryngau creadigol. - Rhagarweiniad i dechnegau cynhyrchu yn y cyfryngau cymdeithasol - Deall cynulleidfa ym maes cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol - Ymchwil cyd-destunol ar gyfer cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol - Ystyried cynyrchiadau sain a thechnoleg - Ystyried cynyrchiadau gweledol a thechnoleg - Ystyried cynyrchiadau rhyngweithiol a thechnoleg - Prosiect personol mewn cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol

Beth fydda i'n ei ddysgu?

4 TGAU gradd D neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg Mamiaith) neu gymwysterau lefel 1 cyfatebol.

Asesiad

Asesir pob uned ar sail gofynion penodol manylebau’r corff dyfarnu ac mae’n cynnwys cyfuniad o asesiad o brosiect ymarferol a chynllunio ysgrifenedig ymchwil, gwerthuso ac ystyriaeth. Llunnir prosiectau i ffocysu ar ddatblygu sgiliau sy’n mynd i’r afael ag anghenion cyflogwyr y sector creadigol a diwydiant. Asesir pob uned yn fewnol a’u safoni’n allanol er mwyn sicrhau bod Safonau Cenedlaethol yn cael eu diwallu.

Dilyniant Gyrfa

Mae dilyniant gyrfaol yn y maes hwn, ac yn benodol yng Nghymru yn wir gyffrous. Mae creu cynnwys yn llwybr a all arwain at lwyddiant fel llawrydd neu fusnes personol. Ar ben hynny, mae prifysgolion lleol yn cynnal cyrsiau llwyddiannus mewn cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol yn ogystal ag ym maes marchnata digidol, brandio a chysylltiadau cyhoeddus. Mae nifer o asiantaethau marchnata yng Nghymru, yng Nghaerdydd a thrwy’r DU. Hefyd, bydd y mwyafrif o fusnesau naill ai’n contractio gwaith allan i asiantaethau digidol creadigol a marchnata a neu â thîm marchnata mewnol ac felly mae’n hollol bosibl i symud ymlaen i swydd.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Rhondda
Cod y Cwrs:9CF201RA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Studio Fee: £53

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd