Byddwch yn astudio ar gyfer Tystysgrif estynedig BTEC mewn Astudiaethau Galwedigaethol, gydag unedau yn ffocysu ar gyd-destunau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant. Byddwch yn datblygu’ch dealltwriaeth o gyfathrebu, gwaith tîm a chynorthwyo unigolion â gwahanol anghenion, yn cynnwys hyrwyddo llesiant a diogelu. Byddwch hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, a fydd yn eich helpu i feithrin yr hyder a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth bellach.
Does dim angen unrhyw gymwysterau. Yn cael ei gynnig drwy Ysgol Dysgu Sylfaen, mae'r cwrs hwn wedi'i anelu’n bennaf at bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed heb ddiwallu meini prawf mynediad ar gyfer astudio Lefel 1 neu uwch. Efallai na fydd gan ymgeiswyr fawr ddim cymwysterau ffurfiol, efallai y tarfwyd ar daith addysgol rhai, rhai wedi ymddieithrio rhag addysg ffurfiol, wedi cael eu haddysgu adref efallai neu mewn lleoliad ar wahân i ysgol.
Caiff eich gwaith ei asesu drwy ystod o ddulliau, yn cynnwys casgliad o unedau gorffenedig, portffolios ac arsylwadau ymarferol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i gyrsiau uwch eu lefel neu i gyflogaeth.





