Tra byddwch yn y coleg byddwch yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer gwaith. Bydd y rhain yn seiliedig ar drafodaethau a gweithgareddau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth a byddant yn cynnwys y canlynol.
• Gwaith tîm
• Cyfathrebu
• Sgiliau Arian
• Entrepreneuriaeth
• Codi a chario
• Gwasanaeth cwsmeriaid
• Creu CV
• Ymwybyddiaeth Covid
• Ymchwilio i Swyddi ac ymbaratoi
Cwblhau blwyddyn o leiaf yng Ngholeg y Cymoedd ar gwrs Llwybr 2 neu 3. Nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr uniongyrchol. Mynychu'r broses gyfweld yn llwyddiannus a chwblhau lleoliad gwaith addas, gyda chymorth y coleg.
Nid oes asesiadau ffurfiol ar y rhaglen hon. Bydd cynnydd myfyrwyr tuag at dargedau unigol yn cael ei asesu a'i adolygu'n barhaus. Cynhelir adolygiadau gyda myfyrwyr a'u rhieni/gofalwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae dilyniant yn cael ei olrhain drwy osod targedau ac asesu.