Byddwch yn astudio nifer o unedau lefel 1. Cylchedau trydan: Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddeall cylchedau trydan a’r cyflenwad cerrynt eiledol. Electroneg: Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddeall ymddygiad gwrthydd, electrofagnedau, cynhwysydd, lled-ddargludydd a sut i fesur trydan.
Byddwch yn trin a defnyddio offer ac elfennau electronig: Bydd yr uned hon yn galluogi’r dysgwr i nabod, dethol a deall y defnydd a chyfyngiadau ar yr elfennau ac offer cyffredin sy’n gysylltiedig â gwaith electronig a thrydan. Gwybodaeth a Systemau electronig: Bydd yr uned hon yn galluogi’r dysgwr i ddeall dyfeisiadau cyffredin electronig/trydan fel system sy’n cynnwys nifer o is-systemau a sut y gellir eu cynrychioli gan ddiagramau bloc.
Bydd angen 3 TGAU gradd A*- E gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Cewch eich gwahodd i gyfweliad ac asesir eich llythrennedd a’ch rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Bydd eich cymwyseddau ymarferol yn cael eu hasesu’n barhaus a byddwch yn sefyll arholiad aml-ddewis.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i gwrs Tystysgrif/Diploma mewn technoleg Trydan ac Electroneg. Byddwch wedi datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol a dealltwraieth sylfaenol o gysyniadau trydan ac electroneg, felly, gallai dysgwyr chwilio am waith ym maes Offeryniaeth a Rheoli Electroneg megis dosbarthiad petrogemegol, nwy a dwr ynghyd â Chydosod ac Awtomeiddio Offer Electronig.