Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen astudio eang ar gyfer y sector peirianneg drydanol.
Byddwch chi'n dysgu: • Egwyddorion Peirianneg • Cyflwyno Prosesau Peirianneg yn Ddiogel fel Tîm • Dylunio a Gweithgynhyrchu Cynnyrch Peirianneg • Dyfeisiau a Chylchedau Electronig
Rhaid ichi ddangos tystiolaeth eich bod wedi cyflawni o leiaf pum TGAU gradd A*-C yn cynnwys y pynciau Saesneg/Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Fel arall, bydd cymwysterau lefel 2 priodol eraill yn cael eu hystyried ar yr amod bod yr unedau a gyflawnwyd wedi’ch paratoi'n addas ar gyfer y rhaglen lefel 3 hon.
Yng Ngholeg y Cymoedd byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Po uchaf eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych a gallai arwain at gwrs lefel uwch.
Bydd eich gwybodaeth a'ch gallu ymarferol yn cael eu hasesu'n barhaus, bydd hyn yn cynnwys asesiadau mewnol ac allanol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus mae cyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn llawer o ddisgyblaethau peirianneg. Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg Drydanol/Electronig. Mae llwybr clir tuag at statws corfforedig a siartredig. Mae cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn gwerthfawrogi Diplomâu BTEC.