Academi Cyn-Brentisiaeth Lefel 3: Peirianneg Drydanol/Electronig

Rhaglen un flwyddyn ydy Peirianneg Uwch a ddatblygwyd i gynnig y sgiliau, y wybodaeth a’r dealltwriaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i gyrchu gyrfa yn y diwydiant Peirianneg. Bydd un o'r grwpiau llwybr VRQ yn astudio ar Gampws Y Rhondda. Mae’r rhaglen yn ymestyn dros 5 diwrnod yr wythnos (30 awr). Prif amcanion y Rhaglen Peirianneg Uwch ydy: galluogi i ddysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth ar ôl cwblhau’r rhaglen; galluogi dysgwyr i symud ymlaen i brentisiaeth lawn mewn gwaith crefft yn y diwydiant Peirianneg. Fel rhan o’r Rhaglen Peirianneg Uwch bydd lleoliad gwaith mewn amgylchedd peirianneg. Bydd hyn yn debygol o ddigwydd yn ystod gwyliau hanner tymor a‘r coleg fydd yn trefnu’r lleoliad.


Bydd disgwyl i holl ddysgwyr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â’u dewis gwrs galwedigaethol. Gofynnir i chi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae’r cwrs hwn yn cynnig sail eang i astudiaeth ar gyfer y sector peirianneg trydan. Byddwch yn dysgu:


• Egwyddorion Peirianneg • Cyflenwi Prosesau Peirianneg yn Ddiogel fel Tîm • Dylunio a Gweithgynhyrchu Cynnyrch Peirianneg • Dyfeisiau a Chylchedau Electronig Byddai’r cwrs hefyd yn cynnwys Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ymarferol (PEO) sy’n gwneud defnydd llawn o weithdai mecanyddol blaengar ein sector. Yn y cwrs PEO , byddech yn astudio 6 uned yn cynnwys: • Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchedd Peirianneg • Cynnal Gweithgareddau Peirianneg yn Effeithiol ac Effeithlon • Defnyddio a Chyfleu Gwybodaeth Dechnegol • Weirio a Phrofi Cyfarpar a Chylchedau Trydan • Llunio a Chydosod Gorchuddion Ceblau Trydan a Systemau Cymorth • Cydosod, Weirio a Phrofi Paneli Trydan/ Cydrannau wedi’u Gosod mewn gorchuddion

Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU A*-C yn cynnwys gradd B mewn Mathemateg, gradd C neu uwch mewn Iaith Saesneg a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Lefel 2 gyda’r detholiad priodol o unedau a’u graddau.


Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Yng Ngholeg y Cymoedd, bydden ni’n eich annog i wneud eich gorau glas yn eich asesiadau. Po uchaf ydy eich graddau po fwya fydd eich opsiynau a gallai hyn arwain at gael mynediad i gwrs uwch ei lefel.

Asesiad

Asesir eich gwybodaeth a’ch cymwyseddau ymarferol yn barhaus. Bydd hyn yn cynnwys asesiadau allanol a mewnol.

Dilyniant Gyrfa

Peiriannydd Trydanol / Electronig

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:04F309NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr trydan:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr electroneg:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr trydan ac electroneg :
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau