Tymor 1: Paentio ac Addurno. Mae hwn yn gwrs ymarferol sy’n dangos y broses gywir, o baratoi ar gyfer tasg i’w gorffen: Deall offer a chyfarpar paentio, Paratoi safle, Tynnu llwch a Preimio arwynebau metel, Gwydro, hongian papur ar waliau a’r nenfwd, Defnyddio paent olew ar amrywiaeth o arwynebau, a glanhau teclynnau, offer a mannau gwaith.
Tymor 2: Rendro a Phlastro Plastro: Bydd y cwrs ymarferol hwn yn rhoi cyflwyniad da i chi i'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol ar gyfer pobl sydd am gynllunio prosiectau Plastro gartref. Mae’n amlygu’r gwahanol ddeunyddiau, technegau ac amodau y disgwylir i blastrwr weithio gyda nhw. Rendro: Byddwch yn dysgu'r sgiliau sylfaenol i baratoi waliau er mwyn gallu gosod haenau plastr gorffennu. Tymor 3: Gwaith Coed a Saernïaeth. Mae hwn yn gwrs ymarferol mewn gwaith coed sylfaenol sy'n cynnwys gwaith mainc ac yn rhoi cyflwyniad da i'r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol a hyfforddiant mewn gwaith coed. Fel rhan o'ch cwrs, byddwch yn cyflawni'r sgiliau gwaith coed canlynol: Defnydd cywir o offer llaw, Uniadau a gosodiadau pren sylfaenol e.e. mortis a thyno, Uniadau haneru a meitr. Gosod cloeon sylfaenol a gosod colfachau. Byddwch hefyd yn dysgu'r dulliau sylfaenol o dorri a gosod architrafau a sgertin.
Drwy gyfweliad. Bydd angen i chi brynu eich esgiliau diogelwch eich hunan.
Cyflawnir y cymhwyster hwn drwy ystod o dasgau a phrosiectau ymarferol a llunio portffolio o dystiolaeth sy’n cael ei ddilysu’n allanol gan City & Guilds. Does dim arholiadau ar gyfer y cymhwyster hwn
Ar ddiwedd y cwrs hwn byddwch wedi ennill dealltwriaeth dda o nifer o grefftau’r diwydiant adeiladu. Bydd gennych fwy o wybodaeth i’ch galluogi i ddewis pa grefft yr hoffech ei dilyn ymhellach.
Purchase of steel toe capped boots, overalls and a course text book is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.