Ym mlwyddyn 1 bydd dysgwyr yn dilyn rhaglen gyffredin. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion sylfaenol dylunio chodi adeiladau a strwythurau isel a chanolig.
Yn ogystal, byddwch yn archwilio'r dulliau adeiladu a ddefnyddir wrth godi adeiladau newydd a'u gwaith allanol cysylltiedig. Ym mlwyddyn 2 mae dysgwyr yn ymchwilio llwybrau gyrfa wahanol er enghraifft, Dylunio Pensaernïol, Syrfeo Meintiau, Rheoli Safleoedd, Tirfesur, Peirianneg Sifil a Syrfeo Peirianneg. Rhoddir pwyslais ar ennill sgiliau academaidd a chyflogadwyedd: megis sgiliau ymchwil, gwaith tîm a sgiliau cyflwyno sy'n chwarae rhan bwysig yn y cwrs.
Bydd angen 4 TGAU arnoch radd A*- B gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg. Hefyd byddwch yn mynychu cyfweliad ffurfiol ac yn sefyll asesiad cychwynnol a osodir gan coleg mewn llythrennedd a rhifedd.
Bydd dysgwyr yn cwblhau amrywiaeth o dasgau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau. Bydd pob modiwl yn ennill gradd gyffredinol sef Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Yn dibynnu ar eich canlyniadau bydd gennych ddewis o lwybrau dilyniant: • Gradd Sylfaen neu HNC mewn Adeiladwaith Syrfeo Cynaliadwy • Mynediad at raglenni gradd Prifysgol.
Purchase of steel toe capped boots, overalls and a course text book is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.