Dros ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sy'n ymwneud ag amrywiol agweddau ar ddatblygu gemau. Bydd hyn yn cynnwys pynciau fel:
• Datblygu Gemau Cyfrifiadurol • Graffeg 2D a 3D Digidol • Rhaglennu Cyfrifiadurol • Datblygu Gwefan • Datblygu Apiau Symudol • Rheoli Prosiectau • Cyfryngau cymdeithasol Hefyd, byddwch yn ymdrin â rhai pynciau TG mwy cyffredinol gan gynnwys: • Systemau TG • Systemau Rheoli Gwybodaeth • Seiberddiogelwch
Bydd angen 5 TGAU graddau A*- C yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd, Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith) neu gymhwyster Lefel 2 gyda'r detholiad priodol o unedau.
Mae'r cymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 yn defnyddio amrywiol ddulliau asesu a fydd yn rhoi ichi rai o'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth neu addysg uwch yn y dyfodol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd yr asesu’n alwedigaethol, yn seiliedig ar y diwydiant gemau a bydd hyn yn cynnwys tasgau ymarferol ac ysgrifenedig. Hefyd, bydd y cwrs hwn yn cynnwys pedwar arholiad neu bedair tasg a asesir yn allanol, a wasgarir ar hyd y cwrs.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Datblygu Gemau a TG yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS (sy’n cyfateb i 3 Safon Uwch), sy’n rhoi dewis eang o opsiynau dilyniant i fyfyrwyr. Gallwch fynd ymlaen i'r brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth a pharhau i ddatblygu eich gyrfa TG. Hefyd, mae cyfle i barhau â'ch astudio yng Ngholeg y Cymoedd, lle cynigir Graddau Sylfaen mewn TGCh a Thechnoleg Gemau (rhyddfraint PDC). Ymhlith y cyfleoedd gyrfa posibl yn y diwydiant Datblygu Gemau/TG mae: - • Dylunydd/Datblygwr Gemau • Dylunydd/Datblygwr Gwefan • Technegydd Cymorth Systemau/TG • Ymarferydd Technoleg Ddigidol Newydd • Dylunydd Meddalwedd • Datblygwr Apiau • Dadansoddwr Seiberddiogelwch