Dros ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sy'n ymwneud ag amrywiol agweddau ar gyfrifiadureg. Bydd hyn yn cynnwys pynciau fel:
• Creu Systemau i Reoli Data • Datblygu Gemau Cyfrifiadurol • Graffeg 2D a 3D Digidol • Rhaglennu Cyfrifiadurol • Rhyngrwyd Pethau • Datblygu Gwefan • Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes • Systemau Technoleg Gwybodaeth • Seiberddiogelwch a Rheoli Digwyddiadau • Rheoli Prosiect TG • Darparu Gwasanaeth TG • Modelu Data • Profi Meddalwedd
Bydd arnoch angen 5 TGAU gradd A* i C (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf)) neu Ddiploma Lefel 2 mewn Cyfrifiadureg/TG gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a/neu TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) gyda Gradd C neu’n uwch, neu gymhwyster galwedigaethol cysylltiedig gyda phrofiad addas.
Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad ac yn sefyll asesiad mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn pennu a oes angen unrhyw gymorth. Yng Ngholeg y Cymoedd byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi a gall olygu y byddwch yn cael mynediad at gwrs lefel uwch.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs byddwch yn cyflawni chwe uned o waith. Bydd dwy o’r unedau hyn yn cael eu hasesu’n allanol. Yn ystod ail flwyddyn y cwrs, bydd saith uned ychwanegol o waith i’w cwblhau. Bydd dwy o’r unedau hyn yn cael eu hasesu’n allanol.
Mae cwblhau’r Ddiploma Estynedig Lefel 3 yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS (cyfwerth â 3 Safon Uwch), gan roi dewis eang o opsiynau dilyniant i fyfyrwyr. Gallwch fynd ymlaen i brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth a pharhau i ddatblygu eich gyrfa TG. Mae cyfle hefyd i barhau â'ch astudiaeth yng Ngholeg y Cymoedd, lle rydyn ni’n cynnig Graddau Sylfaen mewn TGCh a Thechnoleg Gemau (rhyddfraint o Brifysgol De Cymru). Ymhlith y cyfleoedd gyrfa posib yn y diwydiant Datblygu Gemau/TG mae: • Dylunydd/Datblygwr Gemau • Dylunydd/Datblygwr Gwefannau • Technegydd Cymorth Systemau/TG • Ymarferydd Technoleg Ddigidol Newydd • Dylunydd Meddalwedd • Datblygwr Apiau • Dadansoddwr Seiberddiogelwch