Tystysgrif Lefel 2 mewn Hyfforddi yn y Gampfa

Nod Tystysgrif Lefel 2 mewn Hyfforddi yn y Gampfa yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gynllunio, cyflwyno a goruchwylio rhaglenni ymarfer corff diogel ond effeithiol mewn amgylchedd campfa neu glwb iechyd.


Mae'r cwrs hwn yn gwrs ‘adennill costau llawn’. Rhaid talu ffioedd cwrs yn llawn ac NI dderbynnir consesiynau.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio pum uned a fydd yn trafod:


• Anatomeg, ffisioleg a maeth a sut maent yn berthnasol i ymarfer corff a ffitrwydd. • Iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd ffitrwydd. • Y sgiliau i gynnal sesiynau sefydlu ar gyfer cleientiaid a grwpiau mewn amgylchedd yn y gampfa a chefnogi ymarfer corff a ffordd iach o fyw. • Y sgiliau i gynllunio, cyfarwyddo a goruchwylio sesiynau ymarfer corff a gweithgarwch corfforol diogel ac effeithiol. • Proffesiynoldeb wrth hyfforddi ffitrwydd. • Datblygiad personol a phroffesiynol. • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Argymhellir yn fawr meddu ar rywfaint o brofiad o ymarferion yn y gampfa, gan gynnwys pwysau rhydd. Mae'r cwrs yn gofyn am ymdrech gorfforol, ac mae cymryd rhan yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.


Mae elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) dan sylw a dylai dysgwyr feddu ar sgiliau cyfathrebu sylfaenol ar lefel 2. Fe'ch gwahoddir i fynychu cyfweliad anffurfiol lle gallwch gwrdd â thiwtoriaid y cwrs ar gyfer Holi ac Ateb.

Asesiad

• Gwaith cwrs/Prosiect. • Arholiad Aml-ddewis. • Portffolio o dystiolaeth. • Arddangosiadau Ymarferol

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, efallai y byddwch am symud ymlaen i'n Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol. Fel arall, gallech chwilio am waith fel Hyfforddwr yn y Gampfa. Mae'r cwrs yn cael ei gydnabod a'i ardystio'n genedlaethol gan y corff dyfarnu Active IQ.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Rhan Amser Day
Dyddiad:09/09/2024
Dyddiau:Wednesday
Amser:09:00 - 12:00
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:08P202NA
Ffioedd
Cost Recovery Registration & Examination: £81
Cost Recovery Tuition Fee: £405

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau