Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol

Nod y Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol yw datblygu gwybodaeth a sgiliau presennol dysgwr i lefel broffesiynol mewn hyfforddi yn y gampfa, gan ganiatáu iddynt fod yn hyfforddwr personol ardystiedig.


Mae'r cwrs hwn yn gwrs ‘adennill costau llawn’ felly rhaid talu’r ffioedd cwrs yn llawn ac NI dderbynnir consesiynau.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio chwe uned a fydd yn trafod:


• Gwybodaeth bellach am anatomeg a ffisioleg sy'n berthnasol i hyfforddi personol. • Ffordd o fyw a ffactorau meddygol sy'n effeithio ar les. • Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar gyfer ymgynghori â chleientiaid i annog ffordd iach o fyw a strategaethau ar gyfer newid. • Sgiliau i gynllunio a chynnal sesiynau gweithgarwch corfforol gyda gwahanol fathau o gleientiaid mewn amrywiaeth o amgylcheddau gydag ystod o adnoddau. • Gofynion cyfreithiol a phroffesiynol hyfforddi personol. • Sut i sefydlu a rheoli busnes hyfforddi personol ar sail hunangyflogedig. • Sut i reoli, gwerthuso a gwella eich perfformiad eich hun.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster Lefel 2 addas mewn Hyfforddi yn y Gampfa. Mae'r cwrs yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae’n hanfodol cymryd rhan, felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.


Mae elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) a mathemateg yn rhan o’r cwrs, felly dylai dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu a mathemateg ar lefel 2 (o leiaf). Fe'ch gwahoddir i fynychu cyfweliad anffurfiol lle gallwch gwrdd â thiwtoriaid y cwrs ar gyfer Holi ac Ateb.

Asesiad

• Gwaith cwrs/Prosiect. • Arholiadau Aml-ddewis. • Portffolio o dystiolaeth. • Arddangosiadau Ymarferol

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, efallai y byddwch am symud ymlaen i hyfforddiant pellach i weithio gyda grwpiau arbennig. Fel arall, gallech chwilio am waith fel Hyfforddwr Personol neu weithio fel Hyfforddwr Personol hunangyflogedig. Mae'r cwrs yn cael ei gydnabod a'i ardystio'n genedlaethol gan y corff dyfarnu Active IQ.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:01/02/2024
Dyddiau:Monday
Amser:18:00 - 21:00
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:08E306YA
Ffioedd
Cost Recovery Registration & Examination: £116
Cost Recovery Tuition Fee: £255

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Hyfforddwyr Ffitrwydd:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau