AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg

Cwrs dwys ydy hwn a fydd yn cyflwyno a datblygu eich sgiliau gweinyddu cyfrifeg ariannol, a pharatoi cyfrifon costau rheoli yn ogystal â chyflwyno cyfrifo’r gyflogres a threthiant. Nod y cwrs ydy cynnig amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial i symud ymlaen naill ai i Lefel 4 mewn Cyfrifeg, i brifysgol neu i gyflogaeth. Mae’r cwrs yn cynnwys Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg, a Sgiliau Hanfodol TG mewn Llythrennedd Digidol neu Gyflogadwyedd


Er bod y mwyafrif o’r ffioedd am gwrs llawn amser yn cael eu talu gan Goleg y Cymoedd– bydd disgwyl i ddysgwyr dalu am y canlynol: Gwerslyfrau Tiwtorial 'Osborne Books' x4: cost gyfredol £15 - £23 yr un* Ffioedd ail-sefyll arholiad: cost gyfredol £61 am bob un * mae rhai gwerslyfrau ar gael o'r Ganolfan Adnoddau Dysgu - y cyntaf i’r felin piau hi. Mae’r costau yn gywir ar adeg cyhoeddi hyn.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae’r Diploma mewn Cyfrifeg yn cynnwys y canlynol: Ymwybyddiaeth o Fusnes sy’n ystyried amgylchedd busnes, rheolaeth, moeseg a chynaliadwyedd; Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol, delio ag agweddau o baratoi cyfrifon ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau; Technegau Cyfrifyddu Rheoli, sy’n ystyried dulliau safonol o baratoi a chyflwyno data cyfrifyddu rheoli; a phrosesau Treth ar gyfer busnes gan ystyried ffurflenni TAW a chyflogres PAYE.


Ategir y cymhwyster cyfrifeg gydag astudiaeth o sgiliau hanfodol naill ai o ran llythrennedd digidol neu gyflogadwyedd, sy’n hanfodol ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa ym maes cyfrifeg.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen o leiaf gradd Teilyngdod yng nghwrs Tystysgrif Lefel 2 Cyfrifeg. Neu, bydd angen i ymgeiswyr heb Lefel 2 ddarparu tystiolaeth o ddealltwriaeth drylwyr o egwyddorion cadw cyfrifon drwy astudiaeth flaenorol neu brofiad gwaith a 5 pwnc TGAU gradd A-C, yn cynnwys iaith Saesneg/Cymraeg a bydd angen mynychu cyfweliad gyda thiwtor AAT.


Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Yng Ngholeg y Cymoedd, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich asesiadau. Po uchaf ydy’ch graddau, gwell fydd eich opsiynau a gallai olygu eich bod yn cael mynediad i gwrs uwch ei lefel.

Asesiad

Defnyddir Asesiadau a luniwyd gan AAT ar Gyfrifiadur i asesu pob maes dysgu’r cymhwyster hwn. Mae asesiadau Sgiliau Hanfodol yn asesiadau wedi’u hamseru a’u cynnal yn yr ystafell ddosbarth o dan amodau arholiad a/neu'n asesiadau ar gyfrifiadur.

Dilyniant Gyrfa

Bydd cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol. Neu mae Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn golygu pwyntiau UCAS y gellir eu defnyddio i gael mynediad i gwrs prifysgol.

Nodiadau Pellach

AAT registration and membership fees are payable for this course. These fees will be discussed at interview stage.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:15F305NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cyfrifyddion siartredig ac ardystiedig :
Beth allech chi ei ennill:
Fel Ceidwaid cyfrifon, rheolwyr cyflogres a chlercod cyflogau:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Swyddog Cyllid:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau