Lefel 2 mewn Trin Gwallt

Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer gyrfa yn y proffesiwn cyffrous o Drin Gwallt sy’n gwsmer-canolog.


Byddwch yn elwa o amrediad o weithgareddau a luniwyd i gyflawni’ch potensial a’ch galluogi i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth i symud ymlaen i gymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio unedau a fydd yn adlewyrchu anghenion y proffesiwn Trin Gwallt tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa o fewn y sector hwn a byddwch yn astudio agweddau o drin gwallt i’ch galluogi i weithio fel steilist gwallt gan gynnwys: Dilyn arferion iechyd a diogelwch yn y salon; rhoi shampw a chyflyrydd ar y gwallt a'r pen; celfyddyd trin gwallt; ymgynghori â'r cleient am y gwasanaethau gwallt; celfyddyd lliwio gwallt, gweithio yn y diwydiant trin gwallt.


Mae’r cwrs yn cynnwys gwersi theori ac ymarferol ar Drin Gwallt gyda llawer o gyfleoedd i weithio mewn amgylchedd salon masnachol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd gofyn chi gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Trin Gwallt yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai hefyd y bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.


Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Trin Gwallt. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L1 i L2 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol.

Asesiad

Defnyddir ystod o ddulliau i’ch asesu, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth theori a gwaith aseiniad. Bydd arholiadau allanol hefyd.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, rydyn ni'n argymell y dylech chi fynd ymlaen i wneud rhaglen Diploma Lefel 2 Trin Gwallt ac yna o bosibl i raglen Diploma Lefel 3 Trin Gwallt er mwyn i chi gyflawni’ch potensial llawn ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant a thrwy hynny gael cyfle i dilyn un o'r gyrfaoedd hyn; Artist Lliwio; Steilio Gwallt i'r Cyfryngau, Steilist Gwallt ar Fordeithiau, Perchennog Salon, Darlithydd a Hyfforddwr/Asesydd.

Nodiadau Pellach

Salon Uniform, course equipment kit and salon fees are required for this course. Estimated costs, details for ordering/payment and potential application for financial support/assistance will be discussed on interview, and confirmed following receipt of supplier quotes.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:02/09/2024
Dyddiau:Tuesday & Thursday
Amser:17:30 - 20:30
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:7BE201NA
Ffioedd
Registration Fee: £130
Tuition Fee: £534

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a pherchnogion siopau trin gwallt a salonau harddwch:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Trinwyr gwallt a barbwyr:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau