Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer dysgwyr profiadol neu’r rhai sy’n meddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt, ar gyfer gyrfa mewn proffesiwn cyffrous gyda’r ffocws ar gwsmeriaid.


Mae’r cwrs yn cynnwys pob agwedd o uwch wasanaethau ymarferol trin gwallt. Bydd y wybodaeth greiddiol sylfaenol yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ymhob maes o’r proffesiwn. Mae’r cwrs hefyd ar gyfer steilyddion, technegwyr trin gwallt a rheolwr salon.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cymhwyster yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio'n effeithiol fel uwch-drinydd/uwch-steilydd gwalltiau gan gynnwys: iechyd a diogelwch, ymgynghori â'r cleient, torri o safon uwch, steilio, technegau lliwio a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau i gleientiaid


Mae'r unedau hyn i gyd yn rhai gorfodol. Bydd y dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau drwy ddewis nifer o unedau opsiynol arbenigol sydd yn cynnwys: cywiro lliw gwallt a steilio gwallt priodferch. Byddwch yn astudio: y gelfyddyd greadigol o dorri gwallt merched, sgil artistig lliwio gwallt; deheurwydd dychmygus steilio ac addurno gwallt, a sut i ddarparu help ymgynghorol effeithiol ar gyfer cydweithwyr. Er mwyn datblygu’ch sgiliau ymhellach cewch gyfle i astudio trin gwallt ar gyfer priodas ac uned dechnegol ar gywiro lliw

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen Diploma Lefel 2 neu gyfwerth mewn Trin Gwallt yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai hefyd, bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.


Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L3 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol

Asesiad

Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau a fydd yn cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio ar-lein, tystiolaeth theori a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol ar-lein a phortffolios Sgiliau Hanfodol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, gallwch chwilio am waith fel steilydd gwallt, addysgwr ar gyfer gwneuthurwyr, arddangosydd, gwaith arddangosfeydd a theledu, arbenigydd mewn lliwio gwallt neu fel technegydd.

Nodiadau Pellach

Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Uniform - £22). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:7BF301AA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a pherchnogion siopau trin gwallt a salonau harddwch:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Trinwyr gwallt a barbwyr:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau