Prif nod y cwrs ydy datblygu’ch dealltwriaeth o theori cwnsela, moeseg ac arferion cwnsela sy’n eich paratoi ar gyfer gweithio mewn awyrgylch asiantaeth fel hyfforddai cwnsela. Elfen allweddol o’r cwrs hwn ydy hunan–ymwybyddiaeth ac felly mae elfennau datgeliad personol a gweithgareddau datblygiad personol yn cael eu cynnwys.
Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela neu gyfwerth, TGAU graddau A*- D mewn Saesneg neu gymhwyster cyfwerth ynghyd â chymhwyster TGCh neu brofiad ym maes TGCh.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad.
Asesir yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio gwahanol ddulliau asesu fydd yn cynnwys dyddlyfr wythnosol, asesiadau o sgiliau ymarferol a phrawf ysgrifenedig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd gennych y sgiliau a’r cymhwyster i ddefnyddio sgiliau cwnsela yn gymwys mewn nifer o sefyllfaoedd gan gynnwys y proffesiynau gofal, addysgu, gwaith ieuenctid, mentora ayb. Gall dysgwyr sy’n meddu ar Dystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela a’r Dystysgrif Lefel 3 hon mewn Astudiaethau Cwnsela (neu gymwysterau cyfwerth) symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig.