Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)

Datblygwyd y cymhwyster ar gyfer unigolion sy’n gweithio ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau hynny. Bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cais am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr cymdeithasol ym maes gofal cartref neu ofal preswyl ar yr amod eu bod yn diwallu unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol. Gofal Cymdeithasol Cymru sydd wedi gosod y cymhwyster hwn ar gyfer ymarfer fel un gofynnol.


Ynghyd â’r cymhwyster hwn, bydd disgwyl i chi astudio sgiliau, gallai hyn gynnwys cyfle i ail sefyll Saesneg neu Mathemateg TGAU. Mae cyfleoedd am leoliadau gwaith hefyd yn bosibl i alluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac i roi’r hyn a ddysgwyd ganddyn nhw ar waith ac yn ei gyd-destun. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn ffurflen “Addasrwydd ar gyfer Gofal “ y bydd rhaid ei chwblhau.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc. Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r canlynol:


• yr egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol • dulliau o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol • arfer effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol • llwybrau dilyniant i astudiaeth bellach neu gyflogaeth o fewn diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU Gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Rhifedd neu Iaith Saesneg neu Cymraeg Mamiaith.

Asesiad

I gyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr basio dau brawf aml-ddewis a osodir yn allanol ac wedi'u marcio'n allanol

Dilyniant Gyrfa

Gallai cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus a 4 TGAU Gradd C neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg Mamiaith a Mathemateg/Rhifedd alluogi dysgwyr i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, symud ymlaen i swydd ym maes gofal cartref neu breswyl.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Rhondda
Cod y Cwrs:01F201RA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd