Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Datblygiad ac Addysg Plant

Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rhai sy’n gweithio, neu’n awyddus i weithio, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir, gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a/neu wasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 mlwydd oed.


Rydyn ni’n chwilio am Ddysgwyr sydd ag angerdd i weithio gyda babanod a phlant dan 9 mlwydd oed. Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfarwyddyd cyn y cwrs a bydd gofyn i chi fynychu lleoliad gwaith addas bob wythnos. Rhaid hefyd cwblhau gwiriad DBS a ffurflen addasrwydd ar gyfer lleoliad gwaith.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith a/neu ddilyniant gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu leoliadau iechyd. Mae'n cyfuno'r ddwy uned ymarfer sy'n cael eu hasesu yn y gweithle, gyda gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol.


Mae’r elfen ymarfer yn y cymhwyster hwn yn adlewyrchu elfen y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer. Mae’r agwedd ddamcaniaethol yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr am faterion sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant plant a dealltwriaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal plant. Mae’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae angen i ddysgwr eu cyflawni o fewn y cymhwyster hwn yn adeiladu ar gynnwys y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd. Y prif ffocws ydy datblygu’ch gwybodaeth a’ch profiad mewn lleoliad gofal plant tra’n dysgu’r theori yn y coleg. Datblygu’n holistaidd i wella a chadarnhau’ch sgiliau mewn amgylchedd ymarferol. Byddwch hefyd yn astudio TGAU Iaith Saesneg neu Mathemateg

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU graddau C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg neu Rhifedd Iaith Saesneg neu Cymraeg Iaith Gyntaf. ** Gofal Plant Bydd angen gwiriad DBS llwyddiannus ar gyfer y cwrs

Asesiad

Bydd asesiad ar eich sgiliau ymarferol yn digwydd yn eich lleoliad gwaith a byddwch yn cwblhau papur o gwestiynau aml-ddewis ac arholiad yn y coleg.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau eich Diploma’n llwyddiannus gallech fod yn mynd ymlaen i wneud y cwrs Gofal Plant Lefel 3 neu fynd am swydd yn y sector gofal plant.

Nodiadau Pellach

Mae angen i ddysgwyr sy’n mynychu cyrsiau Gofal a Gofal plant brynu crys polo gwerth £11 i wisgo ar leoliad ac i dalu am wiriad DBS.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:06/09/2027
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:01F202NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd