Academi Cyn-Brentisiaeth Lefel 3: Gweithgynhyrchu Mecanyddol

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y cymwysterau achrededig canlynol: Lefel 3, 360 credyd, Dyfarniad mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Datblygu Gwybodaeth Dechnegol) Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, neu Lythrennedd Digidol.


Bydd disgwyl i bob dysgwr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'u cwrs galwedigaethol dewisol. Hefyd, bydd gofyn i chi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cwrs yn caniatáu i ddysgwyr feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dilyniant gyrfa neu astudiaeth bellach.


Ar gyfer y Dyfarniad BTEC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch, bydd y dysgwr yn astudio: • Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg • Cyfathrebu ar gyfer Technegwyr Peirianneg • Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg • Egwyddorion Mecanyddol Systemau Peirianneg • Drafftio gyda Chymorth Cyfrifiadur mewn Peirianneg • Technoleg Robot Diwydiannol Byddai’r dysgwr hefyd yn astudio Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg sy'n gwneud defnydd llawn o'n gweithdai mecanyddol arloesol. Yn y Diploma byddwch yn astudio: • Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion diogelwch sefydliadol • Gweithio'n effeithlon ac effeithiol mewn peirianneg • Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol • Cynhyrchu cydrannau gan ddefnyddio technegau gosod â llaw • Paratoi a defnyddio turnau ar gyfer gweithrediadau turnio • Paratoi a defnyddio peiriannau melino

Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU A* i C gan gynnwys gradd B mewn Mathemateg, C neu’n uwch mewn Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Lefel 2 gyda'r dewis priodol o unedau a’r graddau priodol. Bydd dysgwyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad a byddant yn sefyll asesiad mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn pennu a oes angen unrhyw gymorth.


Yng Ngholeg y Cymoedd byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi a gall olygu y byddwch yn cael mynediad at gwrs lefel uwch.

Asesiad

Bydd eich gwybodaeth a'ch cymwyseddau ymarferol yn cael eu hasesu'n barhaus yn y cymwysterau BTEC a’r Diploma Lefel 2, a bydd hyn yn cynnwys asesiadau damcaniaethol ac ymarferol mewnol. Rhoddir gradd Llwyddiant/Teilyngdod/Rhagoriaeth i'r cymhwyster a'r unedau Dyfarniad BTEC, tra bo'r Diploma Lefel 2 yn cael ei raddio fel pasio neu fethu.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus mae dysgwyr blaenorol wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn llawer o ddisgyblaethau peirianneg. Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i Ddiplomâu Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch. Mae llwybr clir i EngTech a dilyniant i statws Peirianneg Gorfforedig a Siartredig. Mae Diplomâu Lefel 3 yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.

Nodiadau Pellach

You will be required to purchase Uniform (T Shirt and Trousers), safety boots & safety glasses (approx £55). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:04F301NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr mecanyddol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr perianneg:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr gwyddoniaeth, peirianneg a chynhyrchu n.e.c.:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau