Ym mlwyddyn 1 byddwch yn dod i ddeall yr egwyddorion sylfaenol ac arferion dylunio ac adeiladu ar gyfer adeiladau a strwythurau isel a chanolig.
Byddwch yn archwilio'r dulliau adeiladu a ddefnyddir wrth godi adeiladau newydd a'r gwaith allanol sy’n gysylltiedig â hynny. Wrth i ddysgwyr symud ymlaen, byddant yn ymchwilio i wahanol lwybrau gyrfa er enghraifft, Dylunio Pensaernïol, Syrfeo Meintiau, Rheoli Safle, Tirfesur, Peirianneg sifil a syrfeo peirianneg. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd: megis sgiliau ymchwil, gwaith tîm a sgiliau cyflwyno sy'n rhan bwysig o'r cwrs.
Bydd angen 4 TGAU graddau A*- B, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Hefyd, byddwch yn ymgymryd â chyfweliad ffurfiol ac asesiad cychwynnol a ddyfeisir gan y coleg mewn llythrennedd a rhifedd.
Bydd dysgwyr yn cwblhau ystod o dasgau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau. Mae pob modiwl yn cael ei raddio gyda gradd Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Yn dibynnu ar eich graddau cyffredinol bydd gennych ddewis o lwybrau dilyniant: • Gradd Sylfaen neu HNC mewn Adeiladwaith a Thirfesur Cynaliadwy • Mynediad at raglenni gradd y Brifysgol
Learners should get a memory stick for use during the course as well as some drawing equipment that will be detailed during induction.
A pair of safety boots will be required for site visits.
While the library at the college does have computers with the Revit design software available for the students to use. Students may find it easier to have a PC (not Mac) at home with a min of I5 processor and 8Gb Ram so that they can download and practice computer design work at home. The Revit design software will be provided free to the students in September via a student account with Autodesk.