Byddwch yn cwblhau dwy uned BTEC Lefel 3 Pearson sef, Syrfëo mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Safle ar gyfer Adeiladwaith sydd wedi'u hintegreiddio'n un cwrs:
Rhan 1: Gwerthuso Offer Syrfëo. Mae hyn yn cynnwys: Lefelau Optegol a Digidol, Laserau, Gweithfannau Cyfansawdd a GNSS. Ymhlith gweithgareddau ymarferol bydd gwiriadau maes a thechnegau i leihau’r gwallau. Rhan 2: Sefydlu Rhwydweithiau Rheoli. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau ymarferol yn ymwneud â lefelu a chroesi. Rhan 3: Arolygon Safle a Modelau Tir Digidol (DTM). Bydd hyn yn cynnwys defnyddio meddalwedd syrfëo i gynnal arolygon safle a gwerthuso DTMs. Rhan 4: Gosod gan ddefnyddio Cyfesurynnau: Bydd hyn yn cynnwys technegau ar gyfer gwahanol safonau cywirdeb. Ymhlith y gweithgareddau ymarferol bydd gosod adeiladau, system ddraenio, llinellau canol ffyrdd a rheiliau ôl-ogwydd ar gyfer gwrthgloddiau.
Bydd angen 5 TGAU arnoch, graddau A * - C gan gynnwys Saesneg/Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Lefel 2 arall. DS: Dylai fod gan ddysgwyr ddealltwriaeth o drigonometreg ac egwyddorion mathemategol sylfaenol cyn dechrau'r cwrs hwn.
Bydd dysgwyr yn cwblhau ystod o dasgau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig. Caiff pob modiwl radd gyffredinol - Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Mae'r cwrs yn darparu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer y canlynol. • Diploma Cenedlaethol BTEC Pearson mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig • HNC / D a rhaglenni gradd mewn Peirianneg Sifil ac Adeiladwaith. • Diploma Lefel 3 Proqual mewn Syrfëo Peirianneg.
Purchase of steel toe capped boots, overalls and a course text book is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.