Blwyddyn 1 Lefel 4 Arfer Proffesiynol mewn Cyfrifiadureg Datblygu Meddalwedd Dadansoddi a Dylunio Systemau Gwybodaeth 1 Cysyniadau Rhwydweithio a Systemau Cyfrifiadurol Rhaglennu Cyfrifiadurol 1 Datblygiad Gwe Datrys Problemau ar gyfer Cyfrifiadureg
Blwyddyn 2 Lefel 5 Datblygu Realiti Rhithwir Dadansoddi a Dylunio Systemau Gwybodaeth 2 Astudio'n Annibynnol Datblygiad Gwe Ymatebol Dysgu yn Seiliedig ar Waith o dan Oruchwyliaeth
1) Cwblhau rhaglen lefel 3 flaenorol. (BTEC lefel 3 ac ati) * 2) Bydd myfyrwyr hyn, sef dros 21 oed, yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad lle gallant ddangos cymhwysedd ar gyfer y cwrs. 3) Y gofynion derbyn ar gyfer rhaglen gradd israddedig yw 80 pwynt UCAS o 6 neu 12 uned o gymwysterau TAG/TAA, a gefnogir gan dri chymhwyster TGAU gradd C neu uwch.
*Does dim rhaid i’r cymhwyster cyfwerth â Lefel 3 fod yn ddisgyblaeth gyfrifiadurol. Hynny yw, mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddechrau ar y dechrau ac adeiladu sgiliau, gwybodaeth a hyder dysgwyr.
Asesir drwy weithgareddau gwaith cwrs yn yr unedau a astudir. Yn nodweddiadol, bydd y rhain yn gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth a addysgir i gwblhau amcanion gwaith cwrs. Er enghraifft, ym maes Datblygu Gwefan byddwch yn cael eich addysgu sut i greu gwefan ryngweithiol fodern, yna bydd disgwyl ichi greu gwefan yn seiliedig ar frîff galwedigaethol a roddir gan gleient. Mae gan rai unedau brofion bach yn y dosbarth fel mathemateg a bydd yr uned lleoliad gwaith, ym mlwyddyn 2, yn gofyn am gwblhau nifer benodol o oriau gyda chyflogwr.
Ar ôl cwblhau'r cwrs gallwch symud yn syth i weithio yn y diwydiant technoleg gwybodaeth. Gallwch astudio cwrs ategol am flwyddyn er mwyn cael gradd lawn o Brifysgol De Cymru os dymunwch. Mae'r Radd Sylfaen Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn gymhwyster cyflawn ynddo'i hun gydag ardystiad a seremoni raddio cap a gwn gan Brifysgol De Cymru. Ar ôl cwblhau’r cwrs gallwch symud yn syth i weithio yn y diwydiant technoleg gwybodaeth, neu gallwch astudio cwrs ategol yn y brifysgol er mwyn cael gradd lawn.
HE Fees are subject to change