Fel rhan o’ch cwrs byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau fel: Busnes Teithio a Thwristiaeth, Archwilio’r Sector Teithio a Thwristiaeth a Gwasanaethau Cwsmeriaid. Byddwch yn dysgu drwy sesiynau theori ac ymarferol i ymdopi’n effeithiol gyda iechyd, diogelwch a sicrwydd teithwyr awyr, sefyllfaoedd anarferol peryglys/argyfyngus ac anghenion y teithwy
Cewch hefyd ymweld â man hyfforddi British Airways yn Heathrow a chymryd rhan mewn sesiynau ymarferol fel gwagio awyren mewn argyfwng, hyfforddiant diffodd tân a goroesi. Hefyd, cynhelir sesiynau goroesi mewn dwr mewn pwll nofio lleol. Byddwch yn mwynhau ystod eang o weithgareddau o fewn y cwrs, fel ymweliadau, siaradwyr gwadd a defnyddio adnoddau ar y safle a thu hwnt.
Bydd angen 5 TGAU graddau A*- C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg neu gyfwerth, neu Ddiploma Lefel 2 BTEC Teithio a Thwristiaeth gyda graddfa teilyngdod.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
I ennill cymhwyster Lefel 3 mae’n rhaid i chi gwblhau’r asesiadau mewnol ym mhob uned. Asesir y canlynol – sgiliau ymarferol, cwestiynau llafar, gwaith aseiniad a chwestiynau ysgrifenedig. Caiff pob uned eu hasesu a dyfernir gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael swydd yn y sector hwn.